Defnyddir aradr mewn amaethyddiaeth i drin y tir cyn plannu cnydau. Mae wedi bod yn erfyn sylfaenol i'r amaethwr bron o ddechrau hanes, a chafodd datblygiad yr aradr ddylanwad mawr ar ddatblygiad amaethu. Ei brif bwrpas yw troi yr haen uchaf o bridd.

Aradu gydag ych yn yr Oesoedd Canol.
Ceffylau gwedd yn tynnu aradr yn yr Almaen.

Yn draddodiadol, tynnid yr ardar gan ych ac yn ddiweddarach gan geffylau. Erbyn heddiw, defnyddir tractor fel rheol mewn gwledydd datblygedig.

Pan ddatblygodd ffermio yn wreiddiol, defnyddid erfynnau llaw i drin y tir. Wedi dofi'r ych ym Mesopotamia a Gwareiddiad Dyffryn Indus, efallai yn y 6ed ganrif CC, dyfeiswyd yr aradr gyntaf. Ar y cychwyn nid oedd ond ffrâm yn dal darn o bren a mîn ar ei flaen, a dynnid trwy'r tir. Mae'r math yma ar aradr yn gadael rhesi o bridd heb ei droi, gan adael patrwm nodweddiadol y gellir ei weld hyd heddiw mewn ambell fan. Yn ddiweddarach datblygwyd aradrau oedd yn troi'r tir yn hytrach na'i grafu; roedd datblygiad y cwlltwr yn bwysig yma.

Aredig gyda cheffylau tua 1885 yng Nghymru.

DisgrifiadauGolygu

  • Troi Tir
“...pan ddoi Mawrth i mewn byddai yn rhaid bwrw i droi tir glas.... dyma lle y byddai pob wagner gwerth ei halen yn rhoi ei orau yn ei grefft, gorau oll os medrai'r meistr fforddio i brynu un o erydr y clybiau i'r fferm.... Nid troi rywsut rywsut a wnâi y tro, byddai yn rhaid penderfynu ymhle i agor. Wedi gosod polion syth fel haul drwy dwll, cael twyswr er mwyn cadw'r ceffylau mewn llinell mor unionsyth ag yr oedd modd, a thorri, yr hyn a alwem yn gripiad, rhyw gŵys fach oddeutu dwy fodfedd o ddyfnder a honno yn berffaith union ar hyd y cae. Wedyn mesur dwy droedfedd ar hugain a thorri cŵys gyffelyb yn gyfochrog a dyna'r ddau gripiad bach wedi eu cwplhau [sic]. Y gŵys nesaf oedd yn bwysig, byddai yn ofynnol dyfnhau i ryw bedair modfedd a thorri cŵys fyddai yn gorwedd yn daclus ar y cwysi bach blaenorol ac yna ei gwynebu gyda chwys gyffelyb [sic.]. Erbyn hyn, dylai'r ddwy gŵys yr agoriad fod ar ei hongl a'u dwy grib yn wastad fel dau do tŷ. Y gamp fyddai cadw at yr un gwastadrwydd drwy gydol y gwaith, gan droi i fesur pump wrth saith, yr hyn fyddai saith modfedd o grib i grib a phum modfedd o ongl. Byddai yn ofynnol dewis y man cywir ar y copstol i gynorthwyo'r tröwr i fedru dal a rhoi pwysau ar yr ystyllen er mwyn troi yn galed i osgoi tyllau yn yr âr i'r hadyd fynd o'r golwg wrth hau.”[1]

CyfeiriadauGolygu

  1. “Arferion a Chwaraeon ardal y Parc erstalwm” (traethawd am rai arferion amaethyddol a arosai yng nghof “Hen Ddwylo”, cystadleuydd yn un o Eisteddfodau cylch y Parc, Y Bala. Fe’i hysgrifennwyd yng nghanol yr 1960au; tybir mai O.T Jones, Llwynmafon (Tu Du gynt) oedd yr awdur. Gyda chaniatad a diolch i’r teulu ac i Carys Dafydd