Cerbyd at waith amaethyddol yw tractor. Fel rheol mae gan dractor olwynion mawr yn y cefn gyda theiars cryf ac olwynion llai o lawer yn y blaen sy'n galluogi'r cerbyd i droi'n ebrwydd mewn lle cyfyng megis cornel cae. Defnyddir tractorau at bob math o waith ar y fferm, yn cynnwys aradu, cynaeafu cnydau a gwair, a chludo deunydd amrywiol o gwmpas y caeau.

Tractor
Mathcerbyd oddi ar y ffordd, cerbyd modur amaethyddol, offer trwm, outdoor power equipment Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Taith Tractor Nefyn 2008

Un o'r mathau mwyaf adnabyddus o dractor yw'r Massey Ferguson, a adwaenir fel "Fergie". Ceir sawl math o dractor arbenigol yn ogystal, yn cynnwys tractorau JCB.

Eginyn erthygl sydd uchod am gludiant. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.