Mae Aravrit yn wyddor ddyfeisiedig neu prosiect gelf sy'n cyfuno llythrennau'r wyddor Hebraeg a'r wyddor Arabeg.[1] Dyfeisiwyd y wyddor hybrid, nad sy'n cael eu harddel na'i defnyddio, gan Liron Lavi Turkenich, dylunydd graffig o ddinas Haifa yn Israel. Mae'r gair yn gyfuniad o Aravit (Evrit - "Hebraeg" yn yr Hebraeg ac Aravit sef "Arabeg" yn Hebraeg).

Cefndir

golygu

Nododd Turkenish ei bod yn sylwi iddi basio arwyddion swyddogol tair ieithog, Hebraeg, Arabeg, Lladin(Saesneg) yn ddyddiol fel dinesydd Israeli, ond nad oedd hi'n gallu darllen Arabeg. Wrth ymchwilio i waith yr opthamologydd Ffrengig, Louis Émile Javal (1839 – 1907) was darllennodd iddo nodi bod modd i bobl ddarllen rhan uchaf llythrennau yn y wyddor Lladin a deall beth oedd wedi eu hysgrifennu. Sylweddolodd nad oedd hyn yn bosib gyda'r wyddor Hebraeg, ond nododd ei bod yn bosib o ddarllen rhan waelod y llythrennau, gan mai yno oedd y prif gwahaniaethau yng nghyfansoddiad y llythrennau. Wrth ymchwilio ymhellach deallodd bod hyn ddim yn wir gyda'r wyddor Arabeg, ond fod y wyddor hwnnw, fel y Lladin, yn benthyg ei hun i ddarllen rhan uchaf y lythyren. Gyda hynny mewn cof, aeth ati i ysgrifennu geiriau Hebraeg gan ddefnyddio'r wyddor hybrid o aelod llythrennau Hebraeg a top y lythyren gyfatebol yn Arabeg.[2]

Nodweddion

golygu

Cyfunodd Turkenich dop lythrennau Arabeg a gwaelod llythrennau Hebraeg. Bu'n rhaid i Turkenich addasu'r llythrennau i blethu i'w gilydd gan greu 638 llythyren newydd i'r sgript.[3] er mwyn cael llythyren newydd fyddai'n gweithio i'w ddau wyddor.[3]

Gofynnodd Arlywydd Israel, Ruvi Rivlin, iddi ysgrifennu gwahoddiad swyddogol yn y wyddor. Cafwyd dau blentyn bach, un yn siarad Hebrae a'r llall Arabeg a llwyddodd y ddau i ddarllen y gwahoddiad oedd wedi ei hysgrifennu mewn Aravrit, yn ddi-drafferth.[2]

Defnydd

golygu

Nid yw'r wyddor hybrid yn derbyn unrhyw statws gwleidyddol nac yn cael ei ddefnyddio heblaw mewn ffordd symbolaidd. Mae'r dylunydd wedi cynhyrchu deunydd marchnata a gwerthu sy'n defnyddio Aravrit, megis bagiau, gemwaith a dillad.[4] a ceir enghreifftiau o arwyddion unigol, tatŵs a defnydd eraill o'r wyddor.

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. https://www.facebook.com/aravrit?ref=aymt_homepage_panel
  2. 2.0 2.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-10. Cyrchwyd 2019-02-03.
  3. 3.0 3.1 https://www.youtube.com/watch?v=rRYuKxtooFc
  4. https://www.facebook.com/aravrit/photos/pcb.2038303679592154/2038301269592395/?type=3&theater
  Eginyn erthygl sydd uchod am ieithyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Eginyn Gwyddorau (iaith) Nodyn:Israel Nodyn:Hebraeg