Agor y brif ddewislen

Mae 22 llythyren yr wyddor Hebraeg (אָלֶף-בֵּית עִבְרִי alephbet ’ivri) yn cael eu defnyddio i ysgrifennu yr iaith Hebraeg. Mae ffurff wahanol ar bump o'r llythrennau hyn pan ddônt ar ddiwedd gair, o'r enw furff derfynol. Mae ffurfiau'r llythrennau wedi eu haddasu ychydig i ysgrifennu sawl iaith yr Iddewon alltud, ac Iddew-Almaeneg, Ladino a'r ieithoedd Iddew-Arabeg ymhlith y rhai enwocaf. Caiff Hebraeg ei hysgrifennu o'r dde i'r chwith.

Abjad yw'r wyddor Hebraeg, sef llythrennau am ddim ond y gytseiniaid sydd. Er hynny dyfeisiwyd modd i ddangos y llafariaid nes ymlaen yn hanes yr iaith trwy ddefnyddio pwyntiau bach o'r enw niqqud. Yn Hebraeg Rabineg, gall y pedair cytsain אהוי gael eu defnyddio i gynrychioli llafariaid hefyd.

Mae nifer y llythrennau yn yr wyddor Hebraeg, eu trefn, eu henwau a'u seiniau bron yn union yr un peth â rhai'r wyddor Aramaeg, oherwydd i'r Hebreaid a'r Arameaid addasu'r wyddor Phoeniceg at eu dibenion eu hunain ar ddiwedd yr ail fileniwm CC.

Yn ôl ysgolheigion heddiw, datblygodd yr ysgrifen fodern a oedd yn cael ei defnyddio i ysgrifennu Hebraeg yn ystod y 3 CC o'r ysgrifen Aramaeg. Roedd hon yn cael ei defnyddio gan Iddewon er mwyn ysgrifennu Hebraeg ers y 6ed ganrif CC, a dim ond am enw Duw roedden nhw'n defnyddio'r hen ysgrifen. Cyn hynny, roedd pobl yn ysgrifennu Hebraeg yn yr wyddor Hen Hebraeg a oedd yn datblygu o'r ysgrifen Phoeniceg yn ystod y 10fed ganrif CC. Hyd yn oed heddiw mae'r Samariaid yn dal i ddefnyddio amrywiad ar yr ysgrifen hon mewn gweithiau crefyddol.

HanesGolygu

 
Codecs Aleppo: Beibl Hebraeg o'r 10fed ganrif OC â phwyntiau Masoretig. Testun Josua 1:1

Yn ôl ysgolheigion heddiw, datblygodd yr ysgrifen gydag eraill yn ei hardal yn ystod y mil a hanner o flynyddoedd CC. Mae'n perthyn yn agos i'r wyddor Phoeniceg a achosodd i siaradwyr Groeg ddechrau defnyddio gwyddor yn ôl pob tebyg. Honnir weithiau i amrywiad gwahanol ar yr ysgrifen Hebraeg hon ymddangos tua'r 10g a'i bod hi'n cael ei defnyddio'n eang yn nheyrnasau hynafol Israel a Jwda, nes iddynt gwympo yn yr 8fed a'r 6fed ganrifoedd CC yn eu tro. Ond nid hawdd yw gwahaniaethu rhwng ysgrifen trigolion Israel a Jwda ac eraill a ddefnyddid yn yr ardal gyfagos, yn enwedig gan y Moabiaid a'r Ammoniaid.

Ar ôl y Caethglud i Fabilon yn y 6g CC, dechreuodd yr Iddewon beidio â defnyddio'r ysgrifen Hebraeg wreiddol, a dewis ysgrifen berthynol, sef ysgrifen Aramaeg, yn ei lle. Mae'r wyddor Samariaidd, a ddefnyddir gan y Samariaid i ysgrifennu Hebraeg, yn tarddu yn uniongyrchol o'r ysgrifen Hebraeg wreiddiol. Yr ysgrifen Aramaeg yr oedd yr Iddewon yn ei defnyddio a ddatblygodd i mewn i'r ysgrifen Iddewig siâp sgwâr y gelwir "Yr wyddor Hebraeg" arni heddiw. Roedd ysgrifeniadau cysylltiedig yn cael eu defnyddio dros y Dwyrain Canol am sawl canrif, ond ar ôl dyfodiad Cristnogaeth ac wedyn Islam, cymeroedd y gwyddorau Lladin ac Arabeg eu lle.

Addaswyd yr wyddor Hebraeg yn nes ymlaen i ysgriennu ieithoedd yr Iddewon Alltud (Caraieg, yr iaith Iddew-Arabeg, Ladino, Iddew-Almaeneg ac yn y blaen). Penderfynwyd gadw'r wyddor Hebraeg er mwyn ysgrifennu Hebraeg yn ei dadeni yn yr 18fed a'r 19eg ganrifoedd OC.

Y llythrennauGolygu

Dyma lythrennau'r wyddor Hebraeg. Mae pump ohonynt yn newid eu ffurfiau ar ddiwedd geiriau, a geir yn y tabl isod o dan eu ffurfiau arferol.

Aleff Beth Gimel Daleth He Fau Sain Cheth Teth Iod Caff
א ב ג ד ה ו ז ח ט י כ
ך
Lamed Mem Nun Samech Ain Pe Tsadi Coff Resh Schin Tau
ל מ נ ס ע פ צ ק ר ש ת
ם ן ף ץ

DS: Mae'r tabl hwn yn mynd o'r dde i'r chwith. Defnyddir yma yr enwau Cymraeg traddodiadol a geir yn y Beibl Cymraeg ar y llythrennau Hebraeg. Awgrymir rhai enwau eraill yng Ngeiriadur yr Academi, er enghraifft sin am schin (ש), a taf/taw am tau (ת), sy'n ceisio dangos ynganiad y llythrennau yn Hebraeg modern, ond yn anffodus nid yw'r rhestr yn gyflawn.

Enwi, ysgrifennu, rhifo a thrawsgrifio'r lythrennauGolygu

Dyma dabl sy'n cynnwys pob llythyren yr wyddor Hebraeg, wrth ddangos y llythyren, ei henw, ei gwerth rhifiadol a sut y'i trawsgrifir. Ceir ffurf derfynol gan bump llythyren, a ysgrifennir ar ddiwedd geiriau, ar ochr dde colofn y llythyren.

Symbol Enw Trawsgrifiad Gwerth rhifiadol Ysgrifennau
Hebraeg Israel Hebraeg Ashcenasig Unicode Hebraeg Hynafol
Ysgrifen redeg Ysgrifen Rashi Phoeniceg Gwyddor Hen Hebraeg Aramaeg
א alef alef alef - (1) 1          
ב bet, vet beis, veis bet b, v 2          
ג gimel gimmel gimel g 3          
ד dalet daled dalet d 4          
ה he hei he h (2) 5          
ו vav vov/vof vav v 6          
ז zayin zayin zayin z 7          
ח khet ches het kh (neu ch/h) (3) 8          
ט tet tes tet t 9          
י yod yud yod j (4) 10          
כ ך kaf, khaf kof, chof kaf k, kh (neu ch) 20              
ל lamed lomed lamed l 30          
מ ם mem mem mem m 40              
נ ן nun nun nun n 50              
ס samekh somech samekh s 60          
ע ayin ayin/oyin ayin - (5) 70          
פ ף pe, fe pei, fei pe p, f 80              
צ ץ tsadi tsodi/tsodik tsadi ts (neu tz/z) 90              ,  
ק kuf kuf qof k (neu q) 100          
ר resh reish resh r 200          
ש shin, sin shin, sin shin sh, s 300          
ת taf tov/tof, sov/sof tav t 400          
  1. heb ei hysgrifennu ar ddechrau neu ddiwedd gair, neu yn aml ddim o gwbl
  2. heb ei hysgrifennu ar ddiwedd gair
  3. "h" ar ddechrau gair neu ar ôl cytseiniaid, "ch" ymhobman arall
  4. "i" ar ddiwedd gair neu o flaen cytseiniaid
  5. yn aml heb ei hysgrifennu o gwbl

YnganuGolygu

Mae'r disgrifiadau isod wedi'u seilio ar ynganiad Hebraeg safonol modern Israel.

Llythrennau א בּ ב ג גּ ג׳ ד דּ ד׳ ה ו וּ וֹ וו) , ו׳) ז ז׳ ח ט י
IPA

[ʔ]

[b]

[v]

[g]

[ʤ]

[d]

[ð]

[h~ʔ, -]

[v]

[uː]

[oː]

[w] (ansafonol)

[z]

[ʒ]

[x]

[t]

[j]

Cymraeg (1) b f g j d dd h neu (2) f ŵ ô wal sw (De Cymru) bonjour (Ffrangeg) Buch (Almaeneg) t iâr
Llythrennau ִי כּ ךּ ך כ ל ם מ ן נ ס ע פּ ףּ פ ף ץ צ ץ׳ צ׳ ק ר שׁ שׂ תּ ת ת׳
IPA

[i]

[k]

[χ]

[l]

[m]

[n]

[s]

[ʔ~ʕ, - ]

[p]

[f]

[ʦ]

[tʃ]

[k]

[ʁ]

[ʃ]

[s]

[t]

[θ]

Cymraeg i c ch l m n s (2) p ff atsain tsieini c bonjour (Ffrangeg) siarad s t th

Nodiadau:

  1. Does dim sain debyg yn Gymraeg
  2. Dim sain debyg, neu ddim sain o gwbl

AravritGolygu

Yn 2018 dyfeisiodd y dylunydd graffeg Iddewig o Haifa, Liron Lavi Turkenich, 'wyddor' hybrid o'r enw Aravrit sy'n cyfuno gwaelod llythrennau'r wyddor Hebraeg gyda top llythennau'r wyddor Arabeg fel bod modd i berson sy'n darllen yr iaith wyddor neu'r llall ddarllen y gair.[1]

CyfeiriadauGolygu