Etholaethau a Rhanbarthau etholiadol Senedd Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad Gweladwy Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Gwrthdröwyd
Llinell 4:
Crëwyd yr etholaethau trwy [[Deddf Llywodraeth Cymru 1998|Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998]], gyda ffiniau'r etholaethau Seneddol (San Steffan), fel yr oeddent yn 1999. Defnyddiwyd y ffiniau newydd hefyd ar gyfer [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010|etholiad cyffredinol yr DU yn 2010]]. Felly, rhwng etholiad y Cynulliad yn 2007 ac etholiad cyffredinol y DU yn 2010, roedd gan etholaethau'r Cynulliad ac etholaethau San Steffan ffiniau gwahanol. Datgysylltodd [[Deddf System Pleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2010]], y ddwy set o etholaethau, sy'n golygu na fydd newidiadau i un set yn effeithio'r set arall bellach. Mae hyn wedi caniatáu cynigion gwahanol ar gyfer etholaethau yng Nghymru, gyda chynigion gwahanol ar gyfer cynnydd y nifer o seddi yn y Senedd a lleihau y nifer o etholaethau San Steffan yng Nghymru.<ref>{{Cite web|url=https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2011/1/enacted|title=Deddf System Pleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2011|website=deddfwriaethau.gov.uk|publisher=[[Senedd y DU]]}}</ref>
 
Grwpir etholaethau'r Senedd i mewn i ranbarthau etholiadol sy'n cynnwys rhwng saith a naw etholaeth. Defnyddir system aelod ychwanegol i ethol pedwar Aelod ychwanegol o'r Senedd o bob rhanbarth, ar ben yr ASau a etholir gan yr etholaethau. Seiliwyd ffiniau'r rhanbarthau etholiadol ar yr [[Etholaethau Seneddseneddol EwropEwropeaidd yn y Deyrnas Unedig|etholaethau Seneddseneddol EwropEwropeaidd]] cyn 1999. Ym mhob [[etholiad cyffredinol]] o'r Senedd, mae gan pob etholydd ddwy bleidlais, un bleidlais etholaethol ac un bleidlais restr pleidiau ranbarthol. Mae pob etholaeth yn ethol un Aelod trwy'r system '[[cyntaf i'r felin]]', a llenwir seddi ychwanegol y Senedd o'r [[rhestrau pleidiau caeëdigcaeedig]], o dan ddull D'Hondt, gan ystyried canlyniadau'r etholaethau, i greu rhywfaint o [[Cynrychiolaeth gyfrannol|gynrychiolaeth gyfrannol]] ar gyfer pob rhanbarth. Ar y cyfan, etholir y chwe deg Aelod o'r Senedd o'r pedwar deg etholaeth a'r pum rhanbarth etholiadol, gan greu Senedd o bedwar deg AS etholaethol a dau ddeg AS ychwanegol. Cynrychiolir pob [[Etholaeth|etholwr]] gan un aelod etholaethol a phedwar aelod rhanbarthol.
 
== Hanes ==
 
=== Sefydlu ===
Ar ôl y [[Refferendwm datganoli i Gymru, 1997|refferendwm ar ddatganoli i Gymru yn 1997]], sefydlwyd [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] a'i etholaethau a'i rhanbarthau etholiadol gan [[Deddf Llywodraeth Cymru 1998|Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998]]. Dywedodd adran 2 y ddeddf fod yr etholaethau ar gyfer y Cynulliad yn yr un etholaethau a ddefnyddir ar gyfer etholiadau i [[Senedd y Deyrnas Unedig]].<ref>{{Cite web|url=https://www.legislation.gov.uk/ukpga/1998/38/enacted|title=Deddf Llywodraeth Cymru 1998|website=deddfwriaeth.gov.uk|publisher=[[Llywodraeth y DU]]}}</ref> Creodd yr un ddeddf y pum rhanbarth a fyddai'n defnyddio'r un ffiniau a'r pump etholaeth seneddol Ewropeaidd yng Nghymru a nodwyd gan Orchymyn Etholaethau Seneddol Ewropeaidd (Cymru) 1994.<ref>{{Cite web|url=https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/1994/428/enacted|title=Gorchymyn Etholaethau Seneddol Ewropeaidd (Cymru) 1994|website=deddfwriaeth.gov.uk|publisher=[[Llywodraeth y DU]]}}</ref> Defnyddir yr un rhanbarthau etholiadol o hyd, er y dilëwyd y pump etholaethau seneddol Ewropeaidd a'u disodli gan [[Cymru (etholaeth Senedd Ewrop)|etholaeth Cymru-gyfan]], ac [[Brexit|ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd]]. Ond mae newidiadau bach i ffiniau'r rhanbarthau wedi digwydd oherwydd newidiadau i'r etholaethau.
 
=== Newid mewn ffiniau ===
Yn 2006, gweithredwyd [[Deddf Llywodraeth Cymru 2006]]. Atgyfnerthodd y ddeddf y cysylltiad rhwng etholaethau'r Cynulliad ac etholaethau seneddol, a bod yna bum rhanbarthau etholiadol.
 
Diffiniodd Gorchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) 2006 y ffiniau newydd ar gyfer yr etholaethau a'r rhanbarthau etholiadol.<ref>{{Cite web|url=https://www.legislation.gov.uk/uksi/2006/1041/contents/made|title=Gorchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) 2006|website=deddfwriaeth.gov.uk}}</ref>
 
Dileodd y gorchymyn dair etholaeth ([[Caernarfon (etholaeth Cynulliad)|Caernarfon]], [[Conwy (etholaeth Cynulliad)|Conwy]], a [[Meirionnydd Nant Conwy (etholaeth Cynulliad)|Meirionydd Nant Conwy]]), a chrëwyd tair etholaeth newydd i'w disodli ([[Aberconwy (etholaeth Senedd Cymru)|Aberconwy]], [[Arfon (etholaeth Senedd Cymru)|Arfon]], a [[Dwyfor Meirionnydd (etholaeth Senedd Cymru)|Dwyfor Meirionydd]]). Cafodd naw etholaeth addasiadau "sylweddol" i'w ffiniau gan gynnwys y trosglwyddiad o fwy na 3,000 o drigolion rhwng yr etholaethau. Cafodd wyth etholaeth arall addasiadau i'w ffiniau gan arwain at y trosglwyddiad o lai na 3,000 o drigolion rhwng pob etholaeth, a chafodd pedair arall fân addasiadau a arweiniodd at drosglwyddiadau bach o drigolion rhwng etholaethau. Ni chafodd gweddill yr un deg chwech o etholaethau unrhyw addasiadau i'w henwau neu eu ffiniau.
 
Croesodd y tair etholaeth newydd y ffiniau rhwng y rhanbarthau etholiadol o [[Canolbarth a Gorllewin Cymru (Rhanbarth etholiadol Senedd Cymru)|Ganolbarth a Gorllewin Cymru]] a [[Gogledd Cymru (Rhanbarth etholiadol Senedd Cymru)|Gogledd Cymru]], gan arwain at addasiadau i ffiniau'r ddau ranbarth etholiadol, yn ogystal â mân addasiadau i'r etholaeth o [[Maldwyn (etholaeth Senedd Cymru)|Faldwyn]] a arweiniodd at fân addasiadau i ffiniau rhanbarthol hefyd. Yn [[De Cymru|Ne Cymru]],
 
==Etholaethau a rhanbarthau (2007-presennol)==