Can diolch, rhen goes, am dy chwanegiad ar Senedd Ewrop; mae gennym ni reol heb ei sgwenu 'lly, mai dyrned o lincs coch sy'u hangen mhob erthygl. Gai awgrymu 'fyd dy fod yn defnydio'n templad ni (yr un lle neu pethau). Can diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 18:05, 8 Mai 2021 (UTC)Ateb

Dim problem, ma'n wych iawn i fi ymarfer Cymraeg ta beth. Wi'n hollol newydd i olygu wicipedia felly wi'n dal i ddysgu. Naf i sbïo ar y templedi a trïo dysgu mwy am shwt i neud hyn. LandmarkFilly54 (sgwrs) 08:53, 9 Mai 2021 (UTC)Ateb
Gwych iawn! Diolch - da ni'n cael llawer o Saenwyr yn fandaleiddio'r wici'n ddiweddar - felly ymddiheuriaidau am fod yn swta! Diolch am erthygl dda! Os fyddi eisiau unrhyw help - gweidda ar fy nhudalen Sgwrs! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:11, 9 Mai 2021 (UTC)Ateb

Nodyn:Prif golygu

Rwyt ti'n hollol iawn, yn aml mae problem gyda'r chwyddwydr ar dudalennau sy'n defnyddio Nodyn:Prif. Ond dyma’r peth: mae’r nodyn hwnnw’n cael ei ddefnyddio ar filoedd o dudalennau, ac ar y mwyafrif ohonyn nhw does dim problem. Fe wnest ti adael sylw ar dudalen Sgwrs y nodyn, gan ofyn a allai unrhyw un esbonio. Ond wnest ti ddim dweud oni bai bod rhywun yn ymateb erbyn dyddiad cau o 3 diwrnod y byddet ti'n tynnu'r chwyddwydr. Sai'n credu dy fod wedi gwneud unrhyw beth ofnadwy. Fodd bynnag, efallai y byddai'n well bod wedi gadael neges yn y Caffi (byddai hynny wedi bod yn fwy gweladwy i'r gymuned) yn dweud beth roeddet ti'n bwriadu ei wneud. Nid yw'n beth da ar egwyddor gwneud rhywbeth mor bellgyrhaeddol heb roi rhybudd iawn. Wir, roedd y peth yn dipyn o niwsans weithiau, ond byddwn i'n colli gweld y chwyddwydr, a hoffwn i ei weld yn dychwelyd. --Craigysgafn (sgwrs) 22:08, 3 Awst 2021 (UTC)Ateb

wi'n cytuno yn hollol, ddylwn i ddim bod wedi tynnu fe. o'n i'n disgwyl ymateb, ac o'n i ar fin cyhoeddi erthygl felly o'n i'n moyn iddi fod yn berffaith. naf fi newid e nôl a rhoi neges yn y caffi LandmarkFilly54 (sgwrs) 22:40, 3 Awst 2021 (UTC)Ateb
Diolch! Braf i weld y chwyddwydr yn ôl yn ei le. Gobeithio gall rhywun drwsio ymddygiad od achlysurol y peth. Mae'n ymddangos ei fod yn camymddwyn yn aml ar dudalennau gyda chymysgedd o restrau a delweddau. Sawl gwaith dw i wedi datrys y problem trwy symud eitemau o gwmpas ar y dudalen, ond nid yw hynny'n gweithio bob amser ... --Craigysgafn (sgwrs) 10:52, 5 Awst 2021 (UTC)Ateb