Siartiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
gwella
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
 
== Cymru ==
Yn yr ardaloedd diwydiannol o GYmruGymru achosodd y [[Y Chwyldro Diwydiannol|Chwyldro Diwydiannol]] amrywiaeth o broblemau ym mywyd bob dydd ac ym mywyd gwaith bobl. Cododd gweithwyr [[haearn]] [[Merthyr Tudful|Merthyr]] mewn terfysg ym Mehefin 1831 oherwydd yr amodau byw afiach, gor-boblog a’r epidemigau o [[Colera|Golera]] oedd yn dod yn sgil hynny oherwydd diffyg cyflenwadau dŵr glan. Roedd yr amodau gwaith yn y gweithfeydd yn beryglus a thrwy’r System Dryc’ roedd gafael haearnaidd y meistri haearn yn cryfhau ar y gweithwyr. Yn ychwanegol at hynny doedd dim pleidlais gan y gweithwyr i fynegi eu cwynion am eu hamgylchiadau.
 
Yn ôl yn 1839 roedd yn rhaid pleidleisio yn agored, unai drwy godi llaw mewn torf neu drwy weiddi enw’r dyn roeddech eisiau pleidleisio drosto. Roedd hyn yn creu problem. Gallai pobl gael eu bygwth a llwgrwobrwyo i bleidleisio dros rai ymgeiswyr. Cafwyd achosion lle collodd rhai eu cartrefi oherwydd eu bod wedi pleidleisio yn erbyn eu landlord. Credai’r Siartwyr y dylai pob dyn dros 21 gael yr hawl i bleidleisio yn gudd, ac y dylai aelodau seneddol gael tâl.