Caradog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
Erbyn hyn yr oedd Cunobelinus wedi marw, a Charadog a’i frawd [[Togodumnus]] fu’n arwain lluoedd y Catuvellauni yn erbyn byddin [[Aulus Plautius]]. Gorchfygwyd hwy gan y Rhufeiniaid mewn dwy frwydr ar [[Afon Medway]] ac Afon Tafwys a chymerodd y llengoedd feddiant ar diriogaethau’r llwyth. Lladdwyd Togodumnus yn y brwydro, ond dihangodd Caradog tua’r gorllewin.
 
Yn ôl yr hanesydd Rhufeinig [[Tacitus]], daeth Caradog yn arweinydd rhyfel llwyth y [[Silwriaid]] yn ne-ddwyrain Cymru, gan arwain y brwydro yn erbyn y Rhufeiniaid. Yn ddiweddarach symudodd Ii diriogaeth yr [[Ordoficiaid]] ymhellach i’r gogledd. Yn y flwyddyn [[51]] bu brwydr rhwng Caradog a’i fyddin o Ordoficiaid a Silwriaid a’r llengoedd Rhufeinig dan [[Ostorius Scapula|Publius Ostorius Scapula]], oedd wedi dilyn Aulus Plautius fel [[Rhestr Llywodraethwyr Rhufeinig Prydain|llywodraethwr Prydain]]. Roedd y frwydr yn rhywle yn nhiriogaeth yr Ordoficiaid, ond ni wyddir ymhle. Gall fod yn rhywle yn agos i’r ffin bresennol rhwng Cymru a Lloegr, efallai ger [[Afon Hafren]]. Yn ôl disgrifiad Tacitus roedd Caradog wedi dewis safle amddiffynnol gref, gyda mynyddoedd o’i chwmpas ac afon anodd ei rhydio o’i flaen. Fodd bynnag gorchfygwyd ef gan Scapula, gyda lladdfa fawr. Cymerwyd gwraig a merch Caradog yn garcharorion, ac ildiodd ei frodyr I’r Rhufeiniaid, ond llwyddodd Caradog i ddianc ac aeth i diriogaeth llwyth y [[Brigantes]] yng ngogledd Lloegr. Nid oedd [[Cartimandua]], brenhines y Brigantiaid, yn barod i wrthwynebu Rhufain, a throsglwyddodd Caradog iddynt mewn cadwynau.
 
Cymerwyd Caradog i Rufain fel carcharor, lle rhoddwyd caniatad iddo roi araith i’r [[Senedd Rhufain|Senedd]]. Ymddengys iddo wneud argraff ffafriol, oherwydd rhyddhawyd ef gan Claudius a chaniatawyd iddo fyw yn Rhufain. Yn ôl yr hanesydd [[Dio Cassius]], pan welodd adeiladau Rhufain holodd “Sut y mae arnoch chi felly, sy’n berchen cymaint, eisiau ein cytiau ni?”