Branwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
dyfyniad
Llinell 7:
Cynhelir cyfarfod i drafod amodau heddwch, ond mae Efnysien yn rhoi diwedd ar hyn trwy afael yn Gwern, mab Branwen a Matholwch, a'i daflu i'r tân. Rhyfel yw'r canlyniad, a lleddir llawer o filwyr ar y ddwy ochr. Yn y diwedd mae holl wŷr Iwerddon wedi ei lladd, a dim ond saith o fyddin Brân sy'n fyw i ddychwelyd i Brydain gyda Branwen. Lladdwyd Brân ei hun, ond cyn marw gorchymynodd i'w wŷr dorri ei ben a mynd a'r pen yn ôl gyda hwy.
 
Wedi dychwelyd, mae Branwen yn rhoi ochenaid fawr a galaru fod dwy ynys wedi eu difetha o'i hachos hi. Mae'n marw o dor-calon ger aber [[Afon Alaw]] ar [[Ynys Môn]] ac yn cael ei chladdu yno. Gellir gweld [[Bedd Branwen]] ger Afon Alaw hyd heddiw, ond mae'n llawer hŷn na'r chwedl, yn dyddio i'r [[Oes Efydd]].:
 
:''Ac yna y llas y benn ef (Bendigeidfran), ac y kychwynassant a'r pen gantu drwod, y seithwyr hynn, a Branwen yn wythuet. Ac y Aber Alau yn Talebolyon y doethant y'r tir. Ac yna eisted a wnaethant, a gorfowys. Edrych oheni hitheu ar Iwerdon, ac ar Ynys y Kedyrn, a welei ohonunt. "Oy a uab Duw," heb hi, "guae ui o'm ganedigaeth. Da [o] dwy ynys a diffeithwyt o'm achaws i." A dodi ucheneit uawr, a thorri y chalon ar hynny. A gwneuthur bed petrual idi, a'e chladu yno yglan Alaw.''
 
Gellir gweld [[Bedd Branwen]] ger Afon Alaw hyd heddiw, ond mae'n llawer hŷn na'r chwedl, yn dyddio i'r [[Oes Efydd]].