'''SpynjbobSpynjBob Pantsgwâr''' ({{Iaith-en|SpongeBob SquarePants}}) yw'r enw Cymraeg ar gyfres [[teledu|deledu]] animeiddiedig [[UDA|Americanaidd]] am y cymeriad cartŵn o'r un enw, a'r cwmni cyfryngau sy'n ei chynhyrchu. Mae'n un o "Nicktoons" y cwmni teledu [[Nickelodeon]].
Erbyn heddiw, darlledir '''[[SpynjbobSpynjBob Pantsgwâr (cymeriad)|SpynjbobSpynjBob]]''' ledled y byd. Fe'i crëwyd gan y [[bioleg forol|biolegydd morol]] ac [[animeiddio|animeiddiwr]] [[Stephen Hillenburg]] ac fe'i cynhyrchir gan ei gwmni cynhyrchu, [[United Plankton Pictures]]. Lleolir y gyfres yn y [[Cefnfor Tawel]] yn ninas ''Bikini Bottom'' a'i chyffiniau ar waelod lagŵn. Darlledwyd y bennod beilot yn yr Unol Daleithiau ar Nickelodeon ar [[1 Mai]] [[1999]], gyda'r gyfres gyntaf swyddogol yn dilyn ar [[17 Mehefin]] yn yr un flwyddyn. Cafwyd sawl cyfres erbyn hyn ynghyd â [[DVD]]au a dwy [[ffilm]] hir.