Cwmtydu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Gwybodlen lle | ynganiad = {{wikidata|property|P443}} | gwlad = {{banergwlad|Cymru}} | gwleidyddiaeth = Gwleidyddiaeth | aelodcynulliad = {{Swits Cered...'
 
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
odyn + Bosworth
Llinell 7:
}}
 
[[Pentref]] bychan yn ne [[Ceredigion]] yw '''Cwmtydi'''. Mae'n gorwedd rhai milltiroedd i'r de o dref fechan [[Ceinewydd]] ac yn rhan o gymuned [[Llandysiliogogo]]. Mae ar lan [[Afon Ffynnon Ddewi]] sy'n llifo i'r môr ger [[Cwmtydi]], tua 2 filltir i'r gogledd-orllewin ar lan [[Bae Ceredigion]]. Ceir hen odyn galch i lawr wrth y traeth.
 
Mae'r pentrefi bychain cyfagos yn cynnwys [[Llwyndafydd]], Caerwedros a [[Nanternis]]. Mae un o'r ddwy ffordd i lawr i'r bae yn mynd drwy Lwyndafydd lle saif hen blasty Neuadd Llwyn Dafydd. Yno, ar 10 Awst 1485, ar ei ffordd i [[Maes Bosworth|Faes Bosworth]], cododd [[Harri Tudur]] wersyll ar dir plasty "Neuadd", cartref Dafydd ap Ieuan yn [[Llwyn Dafydd]]. Mae Cwm Tudu ar yr arfordir, ac ychydig i ffwrdd o'u taith naturiol o Aberteifi i Aberystwyth, felly gellir ystyried y posibilrwydd i Harri gyfarfod a llongau (o Ffrainc neu Lydaw) yma, gyda chyflenwad o fwyd, arfau neu filwyr. Fel llawer o'r Cymry a fu'n driw iddo ar ei daith, gwobrwywyd Dafydd ap ieuan, wedi buddugoliaeth Maes Bosworth am ei garedigrwydd gydag anrheg o Gorn Hirlas ar orffwysfa arian, wedi'i addurno gyda draig Goch a milgi. Mae'n bosib mai'r enw 'Tudur' yw tarddiad enw'r pentref.
 
==Cyfeiriadau==