Gratianus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 10:
Rheolid yr ymerodraeth yn y dwyrain gan ei ewythr [[Valens]]. Ym mis Mai [[378]] ennillodd Gratianus fuddugoliaeth fawr dros lwyth [[Germaniaid|Almaenaidd]] yn mrwydr Argentovaria, gerllaw [[Colmar]] heddiw. Yr un flwyddyn lladdwyd Valens ym mrwydr Adrianopolis ar [[9 Awst]]. Gadwawodd hyn yr ymerodraeth i gyd yn nwylo Gratianus. Penododd y cadfridog Hispanaidd [[Theodosius I |Flavius Theodosius]] fel ymerawdwr yn y dwyrain.
 
Am rai blynyddoedd teyrnasodd Gratianus yn llwyddiannus ond yn raddol aeth i ddiogi a rhoi ei egni i ddadleuon crefyddol a gwleidyddol. Daeth y cadfridog [[Ffranciaid|Ffrancaidd]] [[Merobaudes]] ac esgob Milan [[Ambrosius]] i gael dylanwad mawr drosto. Gwrthododd Gratianus deitlau paganaidd traddodiadol ymerawdwr Rhufain megis ''Pontifex Maximus'' a cafodd wared ar Allor Buddugoliaeth o [[Senedd Rhufain|Senedd]]. Yn ystod ei deyrnasiad daeth [[Cristionogaeth]] yn brif grefydd pob rhan o'r ymerodraeth, a gwnaeth seremoniau paganaidd yn anghyfreithlon yn Rhufain.
 
Daeth Gratianus yn amhoblogaidd ymysg y fyddin trwy gymeryd corff o [[Alaniaid]] i'w wasanaeth personol ac ymddangos ei hun mewn gwisg rhyfelwr. Gwrthryfelodd y cadfridog Magnus Maximus ([[Macsen Wledig]]) a daeth a byddin fawr o Brydain i Gâl. Roedd Gratianus yn ei ddisgwyl ym [[Paris|Mharis]], ond bradychwyd ef gan lywodraethwr y ddinas a'i ladd ar y [[25 Awst]] 383.