Pornograffi hoyw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
KLBot2 (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:Q1067692
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 1:
[[Pornograffi]] sy'n dangos [[cyfathrach rywiol]] rhwng unigolion o'r un ryw yw '''pornograffi hoyw'''. Gall y term weithiau gynnwys pornograffi [[lesbiaeth|lesbiaidd]], ond gan amlaf mae'r term wedi ei neilltuo at bornograffi o ddynion yn unig.
 
Roedd pornograffi hoyw yn rhan o [[Oes Aur Pornograffi]] y 1970au yn yr Unol Daleithiau, yn sgil y [[Rhyddhad Hoyw]] a rhyddfrydoli agweddau cymdeithasol a chyfreithiol tuag at [[cyfunrywioldeb|gyfunrywioldeb]]. Y ffilm bornograffig hoyw enwocaf o'r cyfnod yw ''[[Boys in the Sand]]'' (1971).<ref>{{cite news | last =Powell | first =Mimi | coauthors =Scott Dagostino and Bhisham Kinha | title =The Porn Power List | work =FAB magazine | pages = | publisher = | date = | url =http://www.fabmagazine.com/features/312/power_list.html | accessdate = 2008-03-06 | archiveurl =httphttps://web.archive.org/web/20080222222456/http://www.fabmagazine.com/features/312/power_list.html <!--Added by H3llBot--> | archivedate =2008-02-22 | url-status =live }}</ref>
 
Cafodd y diwydiant pornograffi hoyw ei daro'n drwm gan yr epidemig [[AIDS]], a bu farw nifer o berfformwyr enwog megis Al Parker a Casey Donovan o ganlyniad i'r clefyd hwnnw. Heddiw mae pornograffi hoyw yn ddiwydiant byd-eang ac i'w ganfod yn hawdd ar y [[rhyngrwyd]].