Wicidata

(Ailgyfeiriad o Wikidata)

Prosiect cydweithredol, byd-eang ydy Wicidata gan gymuned Wicimedia (neu Wicifryngau); fe'i bwriedir i ganoli data ar gyfer prosiectau megis Wicipedia,[1] fel a wneir gyda Comin Wicimedia. Mae'r cynnwys, fel gyda gweddill y teulu "Wici" wedi'i drwyddedu ar ffurf cynnwys rhydd, agored tebyg i'r CC-BY-SA a ddefnyddir ar y wici hwn.

Wicidata
Wikidata
Logo Wicidata
Hafan Wicidata
URLwww.wikidata.org
Masnachol?Nag ydy
IeithoeddAmlieithog
PerchennogWikimedia Foundation
Crewyd ganCymuned Wicifryngau
Laniswyd30 Hydref 2012 (2012-10-30)

Y defnydd ar y Wicipedia Cymraeg golygu

Cafodd ei lansio ar 30 Hydref 2012 ac ar 21 Chwefror y flwyddyn ganlynol fe'i gwelwyd oddi fewn i'r Wicipedia Cymraeg pan ddechreuwyd canoli'r dolennau ieithoedd. Y bwriad gwreiddiol oedd cadw data ffeithiol nad yw'n newid (e.e. hyd afon neu ddyddiad geni) yn ganolog, gyda'r wybodaeth honno'n cael ei galw'n otomatig i wybodlenni a phrosiectau eraill Wicimedia.

Ar 19 Tachwedd 2015, ychwanegwyd rhestr o baentiadau ar y ddalen Rhestr o luniau gan Jacob van Ruisdael, a oedd yn defnyddio'r "Nodyn:Wikidata list" i alw'r data o gronfa ddata Wicidata i'r dudalen ar Wicipedia. Ym Mehefin 2016 crëwyd rhestr o eglwysi a enwyd ar ôl Beuno, ac erbyn Hydref y flwyddyn honno crëwyd 9,500 o restri Wicidata ar adar gyda phob un ohonynt hefyd yn tynnu llif i'r wybodlen drwy ddefnyddio'r Nodyn:Blwch tacson. Yng Ngorffennaf 2016 galluogwyd Gwybodlen gyfan a oedd yn tynnu data o Wicidata: Telesgop Pegwn y De. Erbyn Rhagfyr 2016 roedd gan cy-wici dair gwaith mwy o restri Wicidata na phob Wicipedia arall (dros 290 o ieithoedd) gyda'i gilydd 17,100) a phob un o'r rhain yn tynnu llif otomatig o Wicidata.

Gwybodlenni golygu

Ceir Categori o ddynodwyr (neu 'codau-Q') sydd heb gyfieithiad yn Categori:Tudalennau gydag elfennau o WD heb eu cyfieithu.

Rhoddwyd y canlynol:

 
Geirfa perthnasol

Gweler hefyd golygu

Cymorth:Wicidata - geirfa

Cyfeiriadau golygu

  1. "Data Revolution for Wikipedia". Wikimedia Deutschland. March 30, 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-11. Cyrchwyd September 11, 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)