Mercher (mytholeg): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cell Danwydd (sgwrs | cyfraniadau)
Gh
Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
Llinell 9:
Bydd Mercher i'w gweld yn agos at y gorwel yn y gwyll rhwng dydd a nos, yn hebrwng yr haul tuag at oleuni'r wawr neu yn ei ddilyn i'r tywyllwch gyda'r machlud. Mae fel petae'n ffoi rhag y tywyllwch i'r goleuni neu rhag y goleuni i'r tywyllwch. Dim rhyfedd felly i'r blaned fach hon gael ei hystyried gan sawl gwareiddiad yn negesydd y duwiau; yn symyd rhwng goleuni a thywyllwch a rhwng bydoedd y byw a'r meirw i arwain eneidiau i wlad y meirwon. I'r Groegiaid, Hermes oedd ei enw, i'r Babiloniaid – Nabŵ y Doeth ac i'r Eifftiaid – Thoth.
 
Roedd yn amlwg hefyd bod Mercher yn symyd yn gyflym iawn o'i gymharu â'r planedau eraill. Ac mae hynny'n hollol gywir oherwydd yr agosaf ydych at yr haul y cyflyma ydych chi. Mae Mercher yn teithio tua dwywaith cyflymach na'r Ddaear ac yn cwblhau ei 'flwyddyn' mewn 88 niwrnod. Dyma sy'n cyfri am ei ddelwedd fel rhedwr, wedi ei bortreadu gydag adenydd ar ei fferau a'i helmed.
 
Ond roedd Mercher hefyd yn gyflym a sgilgar mewn sawl maes. Ef oedd duw cerdd am iddo ddyfeisio'r delyn, a'i fab, Pan, oedd dyfeisydd y 'Pibau Pan' sy'n dwyn ei enw. Roedd yn dduw masnach (tardda ei enw o'r un gwreiddyn a'r gair Saesneg ''merchant'') ac yn dduw lladron a thwyllwyr – am mai ef fyddai'r duwiau yn ei yrru i ddwyn yr hyn fyddai'n amhosib cael gafael arno. Roedd hefyd yn dduw ffraethineb (am ei fod yn slic iawn ei dafod), cyfrwysdra, direidi, gwybodaeth, lwc dda, ffyrdd, teithwyr, dynion ifanc a bugeiliaid. Yn ogystal, roedd ei ffon adeiniog, gyda dwy sarff wedi eu plethu am ei phen, yn arwydd o ffrwythlondeb, iechyd a doethineb.
 
==Mercher y Celtiaid==
Dywed [[Iŵl Cesar]] am y [[Celtiaid]]: 'O'r holl dduwiau, maent yn addoli Mercher yn fwy na'r un arall a chanddo ef y mae'r nifer fwyaf o ddelweddau; dywedasant mai ef greodd gelfyddyd a'i fod yn dywysydd ar ffyrdd a siwrneiau, a chredasant mai ef sydd fwyaf dylanwadol i wneud arian a masnach'.
 
Gwaetha'r modd, ni chofnodwyd enw amgenach iddo gan y Rhufeiniaid na: 'Y Mercher Celtaidd', oedd yr un mor amryddawn a'r un Rhufeinig, ond ei fod yn gallu gweithredu fel duw rhyfel yn ogystal. Caiff ei bortreadu ar allorau ac mewn cerfluniau gyda'i anifeiliaid sanctaidd – [[ceiliog]], [[gafr]] (neu [[hwrdd]]) a [[crwban|chrwban]] o gwmpas ei draed. Weithiau mae ganddo dri phen neu dri wyneb, sy'n treblu ei ddoethineb, ac ar y cyfandir fe'i ceid yn aml ar gerfluniau yng nghwmni duwies golud.
Llinell 20:
Ychydig iawn o'r duwiau Celtaidd sydd ag enwau cydnabyddedig iddynt mewn gwirionedd. Mae'n debyg fod eu gwir enwau yn gyfrin, yn cuddio dan sawl enw amgen fyddai'n amrywio dan wahanol amgylchiadau ac o un llwyth neu gwlt i'r llall. Ond os edrychwn ar y chwedlau Cymreig a Gwyddelig fe welwn bod ambell arwr yn cyfateb yn eitha agos i'r Mercher Celtaidd.
 
Yn yr Iwerddon gwelwn bod Ogma yn un fersiwn ohono – duw sy'n gysylltiedig â ffraethineb, mae'n fardd ac yn ddyfeisydd yr alffabet [[Ogam]] yn ogystal a bod yn hebryngydd eneidiau'r meirwon i'r byd arall.
 
Ond o'r cyfan, '''[[Lleu]]''', neu'r 'Lugh' Gwyddelig, sydd agosa. Os disgrifid Mercher gan y Rhufeiniaid fel 'dyfeisydd pob celf', llysenw Gwyddelig Lugh oedd 'galluog ymhob celf'. Disgrifir hynny yn y stori amdano yn ceisio cael mynediad i wledd fawr yn Tara. A'r porthor yn gwrthod mynediad iddo onibai ei fod yn feistr ar gelf – ni chawsai neb fynediad heb hynny.
 
==Dydd Mercher==