Iaith ymasiadol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 3:
Enghraifft da o forffemau wedi'u hymasio yw'r gair [[Lladin]] ''bonus'', "da". Mae'r terfyniad ''-us'' yn gyfuniad o dri morffem wedi'u hymasio i'w gilydd; mae'r terfyniad yn amgodio'r [[cenedl enwau|genedl wrywaidd]], [[y cyflwr goddrychol]], a'r rhif unigol. Os bydd angen newid un o'r morffemau hyn, byddai angen defnyddio terfyniad arall.
 
Mae gan ieithoedd ymasiadol nifer o ffurfiau afreolaidd. Ni ddigwyddai hyn mewn [[iaith ddodiadol]] gan fod pob elfen synthetig yn cadw ystyr ei hun. Fe gredir bod ieithoedd ymasiadol yn tarddu o ieithoedd dodiadol er nad oes tystiolaeth o iaith yn ymasio morffemau glynedig i gadarnhau hyn. Ar y llaw arall mae ieithoedd ymasiadol yn dueddol o golli eu [[ffurfdroad]]au dros y canrifoedd. Mae rhai ieithoedd yn gwneud hyn yn gyflymach nag eraill <ref>[[Guy Deutscher|Deutscher, Guy]] (2005) [http://www.unfoldingoflanguage.com/ ''The Unfolding of Language''] {{Webarchive|url=https://web.archive.org/web/20090423113412/http://www.unfoldingoflanguage.com/ |date=2009-04-23 }}, William Heinemann, Llundain.</ref>, er enghraifft, mae'r [[ieithoedd Slafonig]] bron mor ymasiadol â [[Proto-Indo-Ewropeg|Phroto-Indo-Ewropeg]] ond mae [[Saesneg]] ac [[Afrikaans]] bron yn [[iaith ddadelfennol|ddadelfennol]].
 
Nodwedd arall o ieithoedd ymasiadol yw eu system o [[gogwyddiad gramadegol|ogwyddiadau]]. Er enghraifft yn [[Almaeneg]] mae banodau yn gogwyddo yn ôl [[cenedl enwau|cenedl]] a [[cyflwr gramadegol|chyflwr]]<ref>Griesbach, Heinz / Schulz, Dora (1960): ''Grammatik der deutschen Sprache'', Max Hueber Verlag, München.</ref>: