Math o iaith synthetig sy'n gwrthgyferbynnu gydag ieithoedd dodiadol gan ei thueddiad cryf i ymasio morffemau i mewn i'w gilydd yw iaith ymasiadol. Yr ieithoedd ymasiadol mwyaf amlwg yw'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd.

Enghraifft da o forffemau ymasiedig yw'r gair Lladin bonus ‘da’. Mae'r terfyniad -us yn gyfuniad o dri morffem wedi'u hymasio i'w gilydd; mae'r terfyniad yn amgodio'r genedl wrywaidd, y cyflwr enwol, a'r rhif unigol. Os bydd angen newid un o'r morffemau hyn, byddai angen defnyddio terfyniad arall.

Mae gan ieithoedd ymasiadol nifer o ffurfiau afreolaidd. Ni ddigwyddai hyn mewn iaith ddodiadol gan fod pob elfen synthetig yn cadw ystyr ei hun. Fe gredir bod ieithoedd ymasiadol yn tarddu o ieithoedd dodiadol er nad oes tystiolaeth o iaith yn ymasio morffemau glynedig i gadarnhau hyn. Ar y llaw arall mae ieithoedd ymasiadol yn dueddol o golli eu ffurfdroadau dros y canrifoedd. Mae rhai ieithoedd yn gwneud hyn yn gyflymach nag eraill [1], er enghraifft, mae'r ieithoedd Slafonig bron mor ymasiadol â Phroto-Indo-Ewropeg ond mae Saesneg ac Affricaneg bron yn ddadelfennol.

Nodwedd arall o ieithoedd ymasiadol yw eu system o ogwyddiadau. Er enghraifft yn Almaeneg mae banodau yn gogwyddo yn ôl cenedl a chyflwr[2]:

Cyflwr Unigol Lluosog
Gwrywaidd Benywaidd Diryw
Enwol der die das die
Gwrthrychol den die das die
Genidol des der des der
Dadiol dem der dem den

Mae'r Gymraeg hefyd yn ymasiadol, er enghraifft mae'r ffurf affeithiedig ffyrdd yn cynnwys dau forffem ymasiedig; ffordd a'r lluosog.

Enghraifft arall yw rhediad berf, h.y. newid ffurf y ferf i amgodio wybodaeth am rai neu'r cwbl o fodd, stâd (gweithredol, goddefol neu ganol), amser, agwedd, person, cenedl, a rhif. Mewn iaith ymasiadol, gall cludo dwy neu fwy o ddarnau hyn o wybodaeth gan ddim ond un forffem, yn arferol olddodiad.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Deutscher, Guy (2005) The Unfolding of Language Archifwyd 2009-04-23 yn y Peiriant Wayback, William Heinemann, Llundain.
  2. Griesbach, Heinz / Schulz, Dora (1960): Grammatik der deutschen Sprache, Max Hueber Verlag, München.

Gweler hefyd

golygu