Edward I, brenin Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Nodyn:Person, replaced: 13eg ganrif → 13g using AWB
Llinell 1:
{{infobox person/WikidataPerson|fetchwikidata=ALL|onlysourced=no|suppressfields=cenedl dinasyddiaeth|dateformat=dmy}}'''Edward I''' ([[17 Mehefin]] [[1239]] – [[7 Gorffennaf]] [[1307]]),a elwir hefyd yn '''Edward Hirgoes''' neu '''Morthwyl yr Albanwyr,''' oedd brenin [[Lloegr]] rhwng 1272 a 1307. Mae'n cael ei gofio fel goresgynnwr [[Cymru]] a'r [[Yr Alban|Alban]].
Cyn iddo ddod yn frenin, cyfeiriwyd ato'n gyffredin fel '''Yr Arglwydd Edward'''. Roedd yn fab cyntaf i [[Harri III, brenin Lloegr|Harri III]]. O oedran ifanc roedd gan Edward ddiddordeb mawr yng ngwleidyddiaeth teyrnas ei dad, lle'r oedd llawer o wrthryfela gan farwniaid Lloegr. Ar ôl Brwydr Lewes ym 1264, cafodd Edward ei ddal yn wystl gan y barwniaid gwrthryfelgar, ond llwyddodd i ddianc ar ôl ychydig fisoedd gan drechu eu harweinydd [[Simon de Montfort]] ym Mrwydr Evesham ym 1265. Yna ymunodd Edward â [[Y Croesgadau|Chroesgad]] i'r Wlad Sanctaidd. Roedd ar ei ffordd adref ym 1272 pan gafodd wybod bod ei dad wedi marw. Cyrhaeddodd Loegr ym 1274 a choronwyd ef yn [[Abaty Westminster]].
 
Llinell 12:
Wedi [[Brwydr Hastings]] yn 1066, creodd y Normaniaid dair arglwyddiaeth ar ffiniau Cymru a oedd wedi eu canoli yng [[Caer|Nghaer]], yr [[Amwythig]] a [[Henffordd]]. Cafodd y rhain eu galw yn arglwyddiaethau’r Mers; ystyr ‘mers’ yw ffin. Eu rôl oedd rhwystro’r Cymry rhag ysbeilio dros y ffin.
 
Yn ystod y 13eg ganrif13g, llwyddodd arweinwyr tair cenhedlaeth o deulu brenhinol Gwynedd i uno’r penrhyn mor effeithiol fel iddyn nhw gael eu derbyn yn arweinwyr Cymru gyfan. Y cyntaf oedd [[Llywelyn Fawr|Llywelyn ap Iorwerth]] neu ''Lywelyn Fawr'', a ddisgrifiwyd fel ‘Tywysog Cymru’ ar ei farwolaeth yn 1240. Ei fab [[Dafydd ap Llywelyn|Dafydd]] oedd y cyntaf i hawlio’r teitl mewn gwirionedd. Yn 1244, cafodd nai Dafydd, [[Llywelyn ap Gruffudd|Llywelyn ap Gruffydd]], ei gydnabod yn Dywysog Cymru gan [[Harri III, brenin Lloegr|Harri III]] a’r holl arweinwyr Cymreig a dalodd wrogaeth iddo.
 
Newidiodd y sefyllfa yn llwyr pan esgynnodd Edward I i orsedd Lloegr. Ar y cefndir hwn a’r datblygiadau gwleidyddol cysylltiedig bu gwrthdaro cyson rhwng Llywelyn ap Gruffydd, Tywysog Cymru, ac Edward I, Brenin Lloegr.