Le Corbusier: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 5:
| dateformat = dmy
}}
Pensaer [[Ffrancwyr|Ffrengig]], yn enedigol o'r [[Y Swistir|Swistir]] oedd '''Le Corbusier''', enw gwreiddiol '''Charles-Edouard Jeanneret''' ([[6 Hydref]] [[1887]] – [[27 Awst]] [[1965]]).<ref>{{Cite ''American Heritage Dictionary|''; Le Corbusier|access-date=; adalwyd 16 Awst 2019}}</ref><ref>{{Cite ''Merriam-Webster|''; Corbusier, Le|access-date=; adalwyd 16 Awst 2019}}</ref> Roedd hefyd yn [[dylunydd|ddylunydd]], [[arlunydd|paentiwr]], cynllunydd trefol, ysgrifennwr, ac yn un o arloeswyr yr hyn a ystyrir bellach yn "[[Pensaernïaeth Fodern|bensaernïaeth fodern]]". Fe'i ganed yn y [[Swistir]] a daeth yn ddinesydd Ffrengig ym [[1930]]. Roedd ei yrfa'n rhychwantu pum degawd, a dyluniodd adeiladau yn [[Ewrop]], [[Japan]], [[India]], a [[Gogledd America|Gogledd]] a [[De America]].
 
"Le Corbusier" oedd ei ffugenw wrth ysgrifennu i'r ''Esprit Nouveau''; yn ddiweddarach daeth i'w ddefnyddio yn lle ei enw bedydd. Ystyrir ef yn un o benseiri pwysicaf yr [[20g]]. Nodweddion ei arddull oedd defnydd helaeth o goncrid wedi ei gryfhau a hoffter o gynlluniau mawr, hyd at gynllunio trefi cyfain. Daeth ei arddull i ddwyn yr enw [[Pensaernïaeth Friwtalaidd]], enw a ddaeth o'r Ffrangeg ''béton brut'', sef [[concrit]] amrwd, un o'r deunyddiau roedd Le Corbusier yn ei ffafrio.
Llinell 15:
 
Fodd bynnag, mae Le Corbusier yn parhau i fod yn ffigwr dadleuol. Mae rhai o'i syniadau cynllunio trefol wedi cael eu beirniadu'n hallt am eu difaterwch â safleoedd diwylliannol gerllaw, mynegiant a thegwch cymdeithasol, ac mae ei gysylltiadau â [[ffasgaeth]], [[gwrthsemitiaeth]] a'r unben [[Benito Mussolini]] wedi arwain at rywfaint o gynnen barhaus yn ei gylch.<ref>[https://www.bbc.co.uk/programmes/b01lng0m www.bbc.co.uk]</ref><ref>[https://www.nytimes.com/2015/07/13/arts/design/le-corbusiers-architecture-and-his-politics-are-revisited.html www.nytimes.com]</ref><ref>Antliff,Mark, "Avant-Garde Fascism: The Mobilization of Myth, Art, and Culture in France, 1909–1939"</ref>
 
==Bywyd cynnar (1887–1904) ==
Ganwyd Charles-Édouard Jeanneret ar 6 Hydref 1887 yn La Chaux-de-Fonds, dinas fach yng nghanton [[Neuchâtel]] a oedd yn [[Ffrangeg]] ei hiaith yng ngogledd-orllewin y [[Swistir]], ym [[Jura (mynyddoedd)|mynyddoedd Jura]], 5 cilometr (3.1 milltir) dros y ffin o [[Ffrainc]]. Roedd yn dref [[diwydiant|ddiwydiannol]], gyda llawer o ffatrioedd creu [[oriawr]]au yno. Mabwysiadodd y ffugenw Le Corbusier ym 1920. Roedd ei dad yn grefftwr a oedd yn enameiddio blychau ac oriorau, ac roedd ei fam yn dysgu [[piano]]. Roedd ei frawd hynaf Albert yn [[Ffidil|filoinydd]] amatur.{{Sfn|Journel|2015|page=32}} Mynychodd ysgol feithrin a ddefnyddai ddulliau Fröbelian.<ref>Marc Solitaire, Le Corbusier et l'urbain – la rectification du damier froebelien, pp. 93–117.</ref><ref>Actes du colloque La ville et l'urbanisme après Le Corbusier, éditions d'en Haut 1993 – {{ISBN|2-88251-033-0}}.</ref><ref>Marc Solitaire, Le Corbusier entre Raphael et Fröbel, pp. 9–27, Journal d'histoire de l'architecture N°1, Presses universitaires de Grenoble 1988 – {{ISBN|2-7061-0325-6}}.</ref>
 
==Cyfeiriadau==