Abaty Aberconwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
interwici
mymryn chwaneg
Llinell 1:
Roedd '''Abaty Aberconwy''' yn abaty [[Sistersaidd]] oedd yn wreiddiol ar safle sydd o fewn tref [[Conwy]] heddiw, yna'n ddiweddarach ym Maenan ger [[Llanrwst]]. Yn y [[13eg ganrif]] Abaty Aberconwy oedd yr abaty pwysicaf yng ngogledd Cymru.
 
[[Image:EglwysConwy.jpg|thumb|250px|left|Cafodd eglwys abaty Aberconwy yng Nghonwy ei throi yn eglwys y plwyf. Yn y llun gwelir pen gorllewinol yr eglwys. Mae'r porth bwaog a'r tair ffenestr yn perthyn i'r eglwys wreiddiol]]
 
Sefydlwyd abaty Sistersaidd yn Rhedynog Felen ger [[Caernarfon]] yn 1186 gan fintai o fynachod o [[Abaty Ystrad Fflur]]. Bedair neu bum mlynedd yn ddiweddarach, symudasant i Aberconwy, ac yn 1199 rhoddwyd tiroedd helaeth i'r abaty gan dywysog newydd [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]], [[Llywelyn Fawr]]. Ystyrid Llywelyn yn sylfaenydd yr abaty, a chyda'i gefogaeth ef daeth i feddiannu mwy o diroedd nag unrhyw abaty arall yng Nghymru, dros 40,000 acer (160 km²). Bu farw Llywelyn yn yr abaty yn 1240 a chladdwyd ef yno. Claddwyd ei fab [[Dafydd ap Llywelyn]] yma hefyd yn 1246. Yr oedd mab arall Llywelyn, [[Gruffydd ap Llywelyn Fawr|Gruffydd ap Llywelyn]], wedi syrthio i'w farwolaeth wrth geisio dianc o [[Tŵr Llundain|Dŵr Llundain]] yn 1244 ac wedi ei gladdu yno, ond yn 1248 trefnodd abad Aberconwy ac abad Ystrad Fflur i'w gorff gael ei ddychwelyd i Gymru a'i gladdu yn abaty Aberconwy gyda'i dad a'i frawd. Didoddefodd yr abaty ddifrod sylweddol gan filwyr [[Harri III o Loegr]] yn [[1245]] pan ymosododd y brenin hwnnw ar Wynedd.
 
Cymerodd abad Aberconwy ran bwysig yn y trafodaethau rhwng [[Llywelyn ap Gruffudd]] a'r goron Seisnig yn ddiweddarach yn y ganrif, ac yn 1262 ef oedd unig gynrychiolydd Llywelyn yn y trafodaethau.
Llinell 12:
 
==Llyfryddiaeth==
*R.N. Cooper (1992) '' Abbeys and Priories of Wales'' (Christopher Davies) ISBN 0-7154-0712-0
*Harold Hughes a Herbert L. North, ''The Old Churches of Snowdonia'' (Bangor, 1924; argraffiad newydd, Capel Curig, 1984). Tud. 34-61