Carn Fadryn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 6:
==Bryngaer Carn Fadryn==
Ar gopa Carn Fadryn mae olion hen fryngaer gerrig i'w gweld. Mae ganddi ddau fur amddiffynnol o gerrig mawr. Oddi fewn i'r mur mewnol, sy'n amgae tua 5 hectar o dir, ceir gweddillion cytiau crynion. Mae'r mur allanol yn amgae tua 10.5 hectar o dir ac yn cynnwys olion muriau cynharach a ddefnyddwyd i adeiladu cyfres o gytiau hirsgawr, pob un â'i chorlan gysylltiedig. Mae'r gaer i'w dyddio i [[Oes yr Haearn]]; dichon i'r mur mewnol gael ei godi tua [[300 C.C.]] a'r mur allanol tua [[100 C.C.]]. Saif yn nhiriogaeth y [[Gangani]], un o [[Llwythau Celtaidd Cymru|lwythau Celtaidd Cymru]].
 
Ar y copa mae adfeilion caer fach, neu dŵr cyntefig, a gysylltir â "meibion Owain" ([[Owain Gwynedd]]) ac sy'n dyddio o ddiwedd y [[12fed ganrif]], yn ôl pob tebyg. Mae [[Gerallt Gymro]] yn cyfeirio ato yn [[Hanes y Daith Trwy Gymru]] fel castell oedd newydd ei chodi.
 
Heb fod ymhell o'r fryngaer, ceir maen eratig anferth a elwir Bwrdd [[Y Brenin Arthur|Arthur]].
 
==Castell Carn Fadryn==
Ar y copa mae adfeilion [[castell]] bychan, a gysylltir â "meibion Owain" ([[Owain Gwynedd]]) ac sy'n dyddio o ddiwedd y [[12fed ganrif]], yn ôl pob tebyg. Mae [[Gerallt Gymro]] yn cyfeirio ato yn [[Hanes y Daith Trwy Gymru]] fel castell oedd newydd ei chodi. Mae'n bron yn sicr mai'r castell hwn ar ben Carn Fadryn yw'r castell yn hanes Gerallt. Mae'r adfeilion yn gorwedd o fewn muriau'r hen fryngaer. Mae mur cerrig, heb forter o gwbl ynddo, yn amgylchynu crib gyfyng. Mae'r olion yn awgrymu castell ar ffurff [[Castell mwnt a beili|cestyll mwnt a beili]]'r [[Normaniaid]]. Does dim cofnod arall am y castell wedi dod i lawr i ni.
 
==Castell Madryn==