Carn Fadryn (neu Carn Fadrun), sy'n fynydd 1,217 troedfedd (371m), yw'r pwynt uchaf yng ngorllewin Llŷn, Gwynedd. Tua hanner milltir i'r de-ddwyrain o'r copa mae copa llai Garn Bach; cyfeiriad grid SH278351. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 28 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Carn Fadryn
Garn Fadryn.jpg
Math mynydd, castell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Tudweiliog Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Uwch y môr 371 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.8857°N 4.5608°W, 52.886673°N 4.557853°W Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd 343 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopa Yr Eifl Edit this on Wikidata

Ceir golygfa o ben y mynydd dros benrhyn Llŷn, yn cynnwys tri chopa Yr Eifl i'r gogledd-ddwyrain a mynyddoedd Eryri i'r dwyrain. Mae pen y mynydd yn wastad ond mae ei lethrau'n syrth a chreigiog. Mae creigiau Carn Fadryn o darddiad fwlcanig. Wrth ei droed mae pentref Llaniestyn.

Bryngaer Carn FadrynGolygu

Ar gopa Carn Fadryn mae olion hen fryngaer gerrig i'w gweld. Mae ganddi ddau fur amddiffynnol o gerrig mawr. Oddi fewn i'r mur mewnol, sy'n amgae tua 5 hectar o dir, ceir gweddillion cytiau crynion. Mae'r mur allanol yn amgae tua 10.5 hectar o dir ac yn cynnwys olion muriau cynharach a ddefnyddwyd i adeiladu cyfres o gytiau hirsgawr, pob un â'i chorlan gysylltiedig. Mae'r gaer i'w dyddio i Oes yr Haearn; dichon i'r mur mewnol gael ei godi tua 300 C.C. a'r mur allanol tua 100 C.C.. Saif yn nhiriogaeth y Gangani, un o lwythau Celtaidd Cymru; cyfeirnod OS: SH280352.

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN011.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

 
Carn Fadryn o'r de

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Heb fod ymhell o'r fryngaer, ceir maen eratig anferth a elwir Bwrdd Arthur.

Castell Carn FadrynGolygu

Ar y copa mae adfeilion castell bychan, a gysylltir â "meibion Owain" (Owain Gwynedd) ac sy'n dyddio o ddiwedd y 12g, yn ôl pob tebyg. Mae Gerallt Gymro yn cyfeirio ato yn Hanes y Daith Trwy Gymru fel castell oedd newydd ei chodi. Mae'n bron yn sicr mai'r castell hwn ar ben Carn Fadryn yw'r castell yn hanes Gerallt. Mae'r adfeilion yn gorwedd o fewn muriau'r hen fryngaer. Mae mur cerrig, heb forter o gwbl ynddo, yn amgylchynu crib gyfyng. Mae'r olion yn awgrymu castell ar ffurff cestyll mwnt a beili'r Normaniaid. Does dim cofnod arall am y castell wedi dod i lawr i ni.

Castell MadrynGolygu

I'r gogledd-ddwyrain o Garn Fadryn mae plasdy Castell Madryn yn sefyll. Roedd yn perthyn i'r teulu lleol o'r un enw; roedd aelodau'r teulu yn dirfeddianwyr mawr yn yr ardal. Mae'r adeilad presennol yn dyddio o'r 16g ond cafodd ei adnewyddu'n sylweddol a'i ehangu yn y 19g. Erbyn heddiw mae parcdir y plasdy'n faes carafanau.

Y copaGolygu

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd). Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[2] Uchder y copa o lefel y môr ydy 371m (1217tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 28 Hydref 2001.

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

Dolennau allanolGolygu