Deiniol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Sant]] '''Deiniol''' (hefyd '''Deiniol Wyn''' a '''Deiniol Ail''', [[Lladin]]: '''Daniel''') (fl. [[550]]?) yw [[nawddsant]] dinas [[Bangor]] yng [[Gwynedd|Ngwynedd]], [[gogledd Cymru]]. Yn ôl yr achau yr oedd o'r un llinach ag [[Urien Rheged]], pennaeth [[Rheged]] yn yr [[Hen Ogledd]]. Roedd yn fab i Sant [[Dunawd]] a Dwywe ferch Gwallog ap Llenog. Ei fab oedd Sant [[Deiniolen (sant)|Deiniolen]], a elwir yn Ddeiniol Fab yn ogystal.
 
Dywedir fod Deiniol yn byw fel [[meudwy]] ger [[Tyddewi]] cyn symud i'r [[mynachlog|fynachlog]] newydd ym [[Bangor Is-Coed|Mangor Is-Coed]] a sefydlwyd gan ei dad, yn ôl traddodiad. Ceir ffynnon o'r enw Ffynnon Ddeiniol yno. Eto yn ôl traddodiad dywedir mai Deiniol a [[Dyfrig]] a berswadiodd [[Dewi Sant|Ddewi Sant]] i gynnal [[Synod Llanddewibrefi]] yn [[545]].