Grŵp amrywiol o bethau byw yw'r '''protistiaid'''. Maen nhw'n cynnwys yr [[ewcaryot]]au i gyd nad ydyn nhw'n aelodau'r [[planhigion]], [[anifail|anifeiliaid]] neu [[ffwng|ffyngau]]. Dydy y grwpiau o brotistiaid ddim yn perthyn yn agos ac mae nhw'n cael eu rhannu yn aml i nifer o deyrnasoedd gwahanol. Mae'r mwyafrif o brotistiaid yn [[organebau ungellol|ungellog]] ond mae rhai [[alga|algâu]]'n tyfu hyd at 60 m.