Blaidd-ddyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Dadwneud y golygiad 1063031 gan 90.29.54.38 (Sgwrs | cyfraniadau)
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Yn ailgyfeirio at Bleidd-ddyn
 
Llinell 1:
#ail-cyfeirio [[Bleidd-ddyn]]
[[Delwedd:Loup-garou.jpg|bawd|dde|280px|Cerflun o fleidd-ddyn o'r 18fed ganrif]]
Creadur [[mytholeg]]ol neu [[chwedloniaeth|chwedlonol]] yw '''bleidd-ddyn''' (hefyd: '''blaidd-ddyn'''), sef [[bod dynol|dyn]] â'r gallu i newid ei ffurf naill ai i ffurf [[blaidd]] ynteu i ffurf bwystfil anthropomorffig blaiddaidd, a hynny naill ai o'i wirfodd, drwy daro bargen â'r [[Diafol]], ynteu yn anwirfoddol, o achos melltith, neu drwy gael ei frathu gan fleidd-ddyn arall. Yn aml cysylltir y trawsffurfiad hwn ag ymddangosiad y [[lleuad|lleuad lawn]].<ref group=nodiadau>Fel y nodir gan y croniclydd Gervase o Tilbury ac efallai yn gynharach ymhlith Groegiaid yr henfyd drwy waith Petronius.</ref>
 
Mewn ffuglen mae'r bleidd-ddyn wedi bod yn gymeriad poblogaidd hyd heddiw, gyda diwylliant cyfoes yn creu amrywiaethau ar y [[llên gwerin]] wreiddiol, er enghraifft y defnydd o fwledi arian fel modd i ladd bleidd-ddynion.
 
==Termau eraill==
Mae'r term ''lycanthropedd'', sef y cyflwr o fod yn fleidd-ddyn, yn dod o'r [[Groeg|Roeg]] λυκάνθρωπος ''lykánthropos'' ("bleidd-ddyn"), o λύκος, ''lýkos'' ("blaidd") a άνθρωπος, ''ánthrōpos'' ("gŵr").<ref>{{dyf llyfr| awdur=C. Rose| teitl=Giants, Monsters & Dragons: An Encyclopedia of Folklore, Legend and Myth| cyhoeddwr=Norton| llwoliad=Efrog Newydd| blwyddyn=2000| isbn=9780393322118| iaith=Saesneg}}</ref> Gall ''lycanthropedd'' hefyd gyfeirio at salwch meddwl lle mae claf yn credu ei fod wedi ei drawsffurfio yn anifail. Ceir y term ''therianthropedd'', sef y gallu i drawsffurfio'n anifail. Ceir hefyd y term hynafol ''versipellis'' o'r [[Lladin]] ''vertō'' (“troi”) a ''pellis'' (“croen”), sy'n deillio o'r gred bod ffurf flaiddaidd y blaidd-ddyn yn cuddio o dan groen ei ffurf ddynol, gyda'r bleidd-ddyn yn "troi ei groen" yn llythrennol wrth drawsffurfio.<ref>{{dyf gwe| url=http://perseus.uchicago.edu/hopper/text.jsp?doc=Perseus%3Atext%3A1999.04.0062%3Aentry%3Dversipellis| teitl=Llyfrgell Digidol Perseus| iaith=en}}</ref>
 
==Llên gwerin Ewropeaidd==
Mae gan lawer o wledydd [[Ewrop]] chwedlau ynglŷn â bleidd-ddynion, gan gynnwys [[Albania]] (''oik''), Armenia (''mardagayl'') [[Ffrainc]] (''loup-garou''), [[Gwlad Groeg]] (''lycanthropos''), [[Sbaen]] (''hombre lobo''), [[Bwlgaria]] (''върколак'' - ''varkolak''), [[Twrci]] (''kurt adam''), [[Gweriniaeth Tsiec]]/[[Slofacia]] (''vlkodlak''), [[Serbia]]/[[Montenegro]]/[[Bosnia a Hercegovina|Bosnia]] (''vukodlak'', ''вукодлак''), [[Belarus]] (''vaukalak'', ''ваўкалак''), [[Rwsia]] (''vourdalak'', ''оборотень''), [[Wcráin]] (''vovkulak(a)'', ''vurdalak(a)'', ''vovkun'', ''перевертень''), [[Croatia]] (''vukodlak''), [[Gwlad Pwyl]] (''wilkołak''), [[Romania]] (''vârcolac'', ''priculici''), [[Gweriniaeth Macedonia|Macedonia]] (''vrkolak''), [[Slofenia]] (''volkodlak''), [[Yr Alban]] (''werewolf'', ''wulver''), [[Lloegr]] (''werewolf''), [[Iwerddon]] (''faoladh'' neu ''conriocht''), [[Yr Almaen]] (''Werwolf''), [[Yr Iseldiroedd]] (''weerwolf''), [[Denmarc]]/[[Sweden]]/[[Norwy]] (''Varulv''), [[Norwy]]/[[Gwlad yr Iâ]] (''kveld-ulf'', ''varúlfur''), [[Galisia]] (''lobishome''), [[Portiwgal]] (''lobisomem''), [[Lithwania]] (''vilkolakis'' a ''vilkatlakis''), [[Latfia]] (''vilkatis'' a ''vilkacis''), [[Andorra]]/[[Catalonia]] (''home llop''), [[Hwngari]] (''Vérfarkas'' a ''Farkasember''), [[Estonia]] (''libahunt''), [[Y Ffindir]] (''ihmissusi'' a ''vironsusi''), a'r [[Eidal]] (''lupo mannaro''), [[Llydaw]] (''den-bleiz, den-noz, bleiz-garv'').
 
Mewn [[llên gwerin]] [[Ewrop]]eaidd mae bleidd-ddynion fel arfer yn ddynion drwg wedi'u troi'n fleiddiaid a boenydiai pobl ar orchymyn y [[Diafol]], er bod yna rai straeon am bobl a gafodd eu trawsffurfio'n fleiddiaid yn erbyn eu hewyllys. Yn y 10fed ganrif cawsant yr enw binomaidd ''melancholia canina'' ac yn y 14fed ganrif ''daemonium lupum.''
 
Yn [[Latfia]], roedd ''vilkacis'' yn ddyn a newidiai'n fwystfil bleiddaidd, oedd y gallai fod yn haelionus. Yn [[Hwngari]] roedd y bleidd-ddynion yn byw mewn ardal benodol, sef [[Transdanubia]], a'r gred oedd mai plant a gafodd eu cam-drin gan eu rhieni oeddent, neu ddynion a gafodd eu melltithio yn ystod eu plentyndod. Yn saith blwydd oed, byddai'r plentyn yn gadael ei gartref a mynd i hela yn ystod y nos, a gallai newid yn flaidd neu yn ddyn yn ôl ei ewyllys. Gallai oedolyn hefyd ddod yn flaidd-ddyn drwy gerdded teirgwaith drwy borth bwaog wedi ei adeiladu o bren [[bedw]] a [[rhosyn]]nau gwyllt.
 
Byddai bleidd-ddynion yn difa pob math o anifeiliaid fferm, yn enwedig defaid. Yn aml byddai'r trawsffurfiad yn digwydd yn ystod [[heuldro|heuldro'r gaeaf]], y [[Pasg]] a phan fo'r [[lleuad]] yn llawn. Yn y 17fed a'r 18fed ganrifoedd roedd yr erledigaeth o [[gwrach|wrachod]] yn Hwngari yn erledigaeth o flaidd-ddynion hefyd, a chafodd y bleidd-ddyn ei gysylltu â'r wrach yn aml. Cysylltir y bleidd-ddyn â'r [[fampir]] yn Hwngari hefyd.<ref>{{dyf llyfr| awdur=György Szabó| teitl=Mitológiai kislexikon| cyfrol=I-II| cyhoeddwr=Trezor| lleoliad=Bwdapest| blwyddyn=1992| isbn=9637685227| iaith=hu}}</ref> Yn [[Serbia]] a gwledydd eraill y [[Balcanau]] yr un creadur yw'r [[fampir|sugnwr gwaed]] a'r bleidd-ddyn.
 
Y gred ymhlith rhai [[Slafiaid]] oedd bod gan unrhyw blentyn a aned gyda gwallt neu fan geni y gallu i droi'n anifail, yn bennaf y blaidd. Yn llên gwerin [[Armenia]] ceir gwragedd sydd, yn sgil pechu, yn cael eu newid yn fleiddiaid am saith mlynedd fel cosb.<ref>{{dyf llyfr| awdur=Mkhitar Gosh| teitl=The Fables of Mkhitar Gosh| lleoliad=Efrog Newydd| cyhoeddwr=Ashod Press| blwyddyn=1987| isbn=9780935102215}}</ref> Ar ôl cael ei chollfarnu, mae'r wraig yn cael ymweliad oddi wrth ysbryd sy'n rhoi croen blaidd iddi a'i gorchymyn i'w wisgo, ac ar ôl ei wisgo'n cael chwant am gnawd dynol. Mae hi'n troi mor wancus am gnawd nes iddi fwyta ei phlant ei hun, ac wedyn plant ei pherthnasau, ac yn olaf plant dieithriaid.
 
Yn ôl llên gwerin [[Belarus]], roedd tywysog o'r 11fed ganrif, [[Vseslav o Polotsk]] (c. [[1039]]–[[1101]]), yn flaidd-ddyn, a oedd â'r gallu i symud gyda chyflymder goruwchddynol.
 
Cofnodwyd nifer o ymosodiadau gan fleidd-ddynion - ac wedyn achosion llys - yn y 16fed ganrif yn [[Ffrainc]]. Mewn sawl achos ceir tystiolaeth glir o lofruddiaeth a [[canibaliaeth|chanibaliaeth]] ond heb unrhyw gysylltiad â bleiddiaid; mewn achosion eraill mae pobl wedi cael eu poenydio gan y fath fwystfilod, fel yn achos [[Gilles Garnier]] ym [[1573]], lle bu tystiolaeth am bresenoldeb rhyw flaidd ond dim tystiolaeth yn erbyn y cyhuddedig. Cafodd yr ardal o [[Gévaudan]] ei phoenydio gan [[Bwystfil Gévaudan|Fwystfil Gévaudan]] rhwng [[1764]] a [[1767]], pan gafodd 80 o bobl eu lladd gan endid anhysbys a gafodd ei ddisgrifio fel blaidd gan ddyn a oroesodd un o'r ymosodiadau.
 
Ym [[1692]] yn [[Lifonia]], tystiodd dyn 80 oed o'r enw Thiess ar lw mai blaidd-ddyn oedd e, a dweud mai Cŵn Duw oedd blaidd-ddynion. Yn ôl Thiess, rhyfelwyr oedd bleidd-ddynion, a fyddai'n rhyfela yn erbyn gwrachod a chythreuliaid yn [[uffern]], a chyda hynny sicrhau nad allai'r Diafol a'i weision ddwyn cnydau lleol ymaith i uffern. Ar ôl marw byddai bleidd-ddynion yn cael eu croesawu i mewn i'r nefoedd fel taliad am eu hymdrechion.<ref>{{dyf cylch| awdur=Daniel Gershenson| teitl=Apollo the Wolf-God| gwaith=Journal of Indo-European Studies, Monograph, 8| cyhoeddwr=McLean, Virginia: Institute for the Study of Man| blwyddyn=1991| iaith=en}}</ref>
 
===Nodweddion cyffredin===
[[Delwedd:BleiddDdyn.jpg|bawd|300px|Torlun pren o flaidd-ddyn a wnaethpwyd ym [[1722]] yn yr [[Almaen]]]]
Yn ôl llên gwerin Ewropeaidd gellir adnabod y bleidd-ddyn drwy arwyddion corfforol diamau, megis aeliau sy'n cwrdd ar bont y trwyn, ewinedd crwm, clustiau wedi eu gosod yn isel a cherdded â brasgam. Ffordd arall o adnabod bleidd-ddyn yw torri cnawd y cyhuddedig i weld os oes blew blaidd dan ei groen. Yn [[Rwsia]] ceir y gred bod gan y bleidd-ddyn wrych o dan ei dafod.<ref name=Woodward>{{dyf llyfr| awdur=Ian Woodward| teitl=The Werewolf Delusion| tud=256| cyhoeddwr=Paddington Press| lleoliad=Efrog Newydd| blwyddyn=1979| isbn=9780448231709| iaith=en}}</ref> Mae ffurf flaiddaidd y blaidd-ddyn yn amrywio o wlad i wlad. Fel arfer ni ellir gwahaniaethu rhwng bleidd-ddyn yn ei ffurf flaiddaidd a blaidd go iawn, ond clywir am rai eithriadau, er enghraifft:
 
* Nid oes gan y bleidd-ddyn gynffon (nodwedd mae'r bleidd-ddyn yn rhannu â [[gwrach]] ar ôl iddi droi'n anifail)
* Mae gan y bleidd-ddyn lygaid a llais dynol.
 
Ar ôl dychwelyd i'w ffurf ddynol, mae'r blaidd-ddyn yn dod yn wan, yn ddiegni ac yn isel ei ysbryd.<ref name=Woodward /> Nodwedd arall a ffieiddiai pobl ar draws Ewrop yn ystod y canol oesoedd oedd arfer y bleidd-ddyn o fwyta celanedd y meirw, nodwedd a gafodd ei chofnodi ledled Ewrop, yn enwedig mewn testunau fel yr ''Annales Medico-psychologiques'' yn y 19fed ganrif. Wrth gwrs, mae bwyta cyrff y meirw yn arfer mae'r bleidd-ddyn yn rhannu â bleiddiaid go iawn, fel mae lleoliadau [[bleiddbwll|bleiddbyllau]] yng [[Cymru|Nghymru]] yn awgrymu.<ref name=Galwad>{{dyf llyfr| awdur=Cledwyn Fychan| teitl=Galwad y Blaidd| cyhoeddwr=Cymdeithas Lyfrau Ceredigion| blwyddyn=2006| isbn=9781845120481}}</ref>
 
===Dod yn fleidd-ddyn===
Mae sawl dull o ddod yn fleidd-ddyn wedi cael eu cofnodi:
 
* Gwisgo gwregys o groen blaidd.<ref>{{dyf llyfr| awdur=Richard Verstegan| teitl=Restitution of Decayed Intelligence| blwyddyn=1628}}</ref>
* Defnyddio eli [[dewiniaeth|dewinol]].<ref>{{dyf cylch| awdur=Aaron Bennett| teitl=So, You Want to be a Werewolf?| gwaith=Fate| cyfrol=55| rhif=6| rhifyn=627| dyddiad=Gorffennaf 2002}}</ref>
* Yfed dŵr glaw allan o ôl pawen blaidd.
* Yfed dŵr o nant swynol.
* Yfed cwrw arbennig a chanu siant benodol.<ref>{{dyf llyfr| awdur=Elliot O'Donnell| teitl=Werwolves| tud= 65&ndash;67| cyhoeddwr=Methuen| lleoliad=Llundain| blwyddyn=1912}}</ref>
* Cysgu tu allan gyda golau lleuad lawn yn disgleirio ar eich wyneb ar nos Fercher neu ar nos Sadwrn yn ystod yr haf.
* Taro bargen â'r [[Diafol]].
* Cael eich brathu gan fleidd-ddyn. Ymddengys fod y gred hon yn ddyledus i ffuglen gyfoes. Prin yw'r dystiolaeth o lycanthropedd fel haint mewn llên gwerin.<ref name=Woodward />
 
===Lycanthropedd fel melltith===
Cafodd y felltith o lycanthropedd ei hystyried gan rai ysgolheigion i fod yn gosb ddwyfol. Dengys llenyddiaeth ar flaidd-ddynion sawl enghraifft o D[[duw]] neu [[sant|saint]] yn cosbi unigolion â lycanthropedd. ''Omnes angeli, boni et Mali, ex virtute naturali habent potestatem transmutandi corpora nostra'' ("Mae gan bob angel, da a drwg, y gallu i drawsffurfio ein cyrff") meddai'r sant [[Thomas Aquinas]]. Byddai'r rhai a gafodd eu hesgymuno gan yr [[Eglwys Gatholig]] hefyd yn dod yn flaidd-ddynion, yn ôl y gred.<ref name=Woodward /> Yn [[Rwsia]] roedd y Diafol hefyd yn melltithio pobl â lycanthropedd.
 
===Gwendidau===
Mewn ffuglen gyfoes gellir clwyfo a lladd blaidd-ddynion gydag arfau a wnaethpwyd o arian, ond fel arall maent yn anodd eu clwyfo. Ymddengys nad yw'r gwendid hwn yn dyddio yn ôl yn bellach na ffuglen y 19fed ganrif.
 
Yn wahanol i [[fampir]]od, ni all effeithio ar flaidd-ddynion gydag arteffactau crefyddol neu ddŵr cysegredig. Mewn sawl gwlad gall [[rhyg]], [[uchelwydd]], [[criafol]] a [[cwcwll y mynach|chwcwll y mynach]] (''Aconitum napellus'') gadw blaidd-ddynion draw.
 
===Meddyginiaethau===
Ceir sawl dull o drin lycanthropedd. Credai'r Groegiaid a'r Rhufeiniaid y byddai blinder corfforol yn iacháu lycanthropedd. Byddai'r dioddefydd yn cael ei orfodi i ymgymryd â chyfnodau hir o ymarfer corfforol er mwyn cael gwared â'i salwch. Yn y canol oesoedd ceir tri dull traddodiadol o drin lycanthropedd: ffisig, llawdriniaeth a dadreibiad. Yn anffodus i'r dioddefydd, profai'r rhan fwyaf o'r meddyginiaethau ar gael i fod yn angheuol. Y gred yn [[Sisili]] oedd y gellir iacháu blaidd-ddynion naill ai drwy ei daro ar ei dalcen â chyllell, ynteu drwy drywanu ei ddwylo gyda hoelion. Yn [[Schleswig-Holstein]] y gred oedd y gellir iacháu blaidd-ddyn drwy alw ei enw bedydd teirgwaith. Yn llên gwerin [[Denmarc]] gellir iacháu blaidd-ddyn drwy refru arno. Dull arall o iacháu blaidd-ddyn oedd i'w fedyddio. Gallai ymroddiad i Sant Hubertus hefyd iacháu lycanthropedd, yn ogystal â diogelu rhagddo.
 
===Llên glasurol===
[[Delwedd:Lycaon turned into wolf-Goltzius-1589.jpg|bawd|dde|250px|[[Zeus]] yn troi [[Lycaon]] yn [[blaidd|flaidd]], cerflun gan [[Hendrik Goltzius]].]]
Yn ei waith ''Historiai'' ysgrifennai [[Herodotus]] am lwyth o'r enw y Neuri, oedd yn byw yng ngogledd-ddwyrain [[Scythia]]. Byddai'r Neuri yn newid yn flaiddiaid unwaith pob naw blynedd.<ref>{{dyf llyfr| awdur=Herodotus| teitl=Historiai| cyfrol=Llyfr IV| pennod=105}}</ref> Roedd [[Fyrsil]] hefyd yn gyfarwydd â dynion yn trawsffurfio'n flaiddiaid. Ym mytholeg Gwlad Groeg ceir yr hanes am [[Lycaon]], a gafodd ei droi'n flaidd gan [[Zeus]] am fwyta cnawd dynol.
 
Ym ''[[Metamorphoses]]'' disgrifiodd y bardd [[Ofydd]] chwedlau am ddynion a grwydrai coedwigoedd [[Arcadia]] yn rhith bleiddiaid.
 
Adroddai'r ysgolhaig [[Plinius yr Hynaf]] ddwy stori ynglŷn â lycanthropedd. Gan ddyfynnu Euanthes<ref>{{dyf gwe| url=http://penelope.uchicago.edu/Thayer/L/Roman/Texts/Pliny_the_Elder/8*.html#81| teitl=Historia Naturalis}}</ref> soniai am ddyn a hongiai ei ddillad ar [[onnen]] cyn nofio ar draws llyn yn [[Arcadia]] a thrawsffurfio'n flaidd. Gallai ddychwelyd i'w ddillad a throi'n ddyn unwaith eto ar yr amod nad oedd yn ymosod ar unrhyw ddyn am naw blynedd. Mae Plinius hefyd yn dyfynnu [[Agriopas]] ynglŷn â chwedl lle cafodd dyn ei droi'n flaidd am fwyta perfeddion plentyn.
 
Yn y ''[[Satyricon]]'' gan Gaius Petronius Arbiter (60 CC), mae cymeriad o'r enw Niceros yn adrodd chwedl am gyfaill a gafodd ei droi'n flaidd.<ref>{{dyf llyfr| awdur=Petronius Arbiter; cyfieithiad gan R. Bracht Branham a Daniel Kinney| teitl=The Satyrica| cyhoeddwr=Gwasg Prifysgol Califfornia| blwyddyn=1996| isbn=9780520205994| iaith=Saesneg}}</ref>
 
==Blaidd-ddynion yng Nghymru==
===Blaiddwn===
Yn y chwedl ''[[Math fab Mathonwy]]'' mae Math yn cosbi [[Gwydion]] fab Dôn a'i frawd [[Gilfaethwy]] fab Dôn am dreisio [[Goewin]] a dechrau rhyfel rhwng [[Gwynedd]] a [[Deheubarth]] trwy eu troi yn [[blaidd|flaidd]] a bleiddast am flwyddyn. Dychwelant gyda chenau blaidd cryf yn fab iddynt. Trawsffurfiodd Math y cenau yn llencyn a'i fedyddio gyda'r enw [[Blaiddwn]].<ref>{{dyf llyfr| awdur=Dafydd Ifans, Rhiannon Ifans, Brynley F. Roberts| teitl=Y Mabinogion| tud=60| cyhoeddwr=Gomer| blwyddyn=1980| isbn=9780850887228}}</ref>
 
===Bleiddiaid Brycheiniog===
Yn ystod y 18fed ganrif bu teulu'n byw mewn tyddyn rhywle ym [[Sir Frycheiniog|Mrycheiniog]]. Roedd aelodau'r teulu'n hyll neu salw ac yn ymddwyn yn od, a'r gred yn yr ardal oedd eu bod yn hanu o hanner dynion-hanner bleiddiaid a oedd yn byw yn y coed. Roedd yr olaf ohonynt yn adnabyddus am ei glustiau pigfain blewog, nodwedd a etifeddwyd gan ei saith plentyn. Nid yw'n glir pam y gadawodd y "bleiddiaid", fel y'u gelwid, yr hen dyddyn, ond roedd eu cymdogion yn falch iawn o gael gwared ohonynt. Fu dim llewyrch ar y lle wedyn, gyda thenant ar ôl tenant yn gadael am fod y stoc yn marw, y gweiriau'n brin a'r cnydau'n pallu aeddfedu. Y gred gyffredin oedd bod y lle wedi'i reibio ac erbyn diwedd y ganrif roedd y tyddyn yn adfeilion.<ref name=Galwad />
 
===Blaiddwraig Sir Faesyfed===
Cyfarfu gŵr ifanc â Gwenllïan, geneth brydferth ond byrbwyll o gyrion [[Sir Faesyfed]], a'i phriodi. Ganwyd plentyn i'r ddau ond roedd yr amserau'n rhai caled ac yntau'n methu cael dau ben llinyn ynghyd. Ond mynnai Gwenllïan nad oedd angen iddo boeni oherwydd galla hi ddod o hyd i ddigon o gig. Cadwodd at ei gair ond gofidiai ei gŵr rhag ofn ei bod yn ei ddwyn o rywle. Addawodd hithau rannu ei chyfrinach ag ef ar yr amod na fyddai yntau'n ei galw wrth ei henw yn ystod y weithred. Aeth ag ef i lecyn anghysbell lle roedd nifer o ŵyn a rhedodd ar eu hôl gan barablu rhywbeth. Y funud nesaf newidiodd yn flaidd, cipio un o'r ŵyn a diflannu i'r coed. Dychwelodd adref wedyn â baich o gig yn ôl ei harfer. Un diwrnod, tra oedd Gwenllïan wrth yr un gorchwyl a'i gŵr yn ei gwylio, gwelodd ffermwr y blaidd ac annos ei gŵn iddo. Yn ei fraw fe waeddodd ei gŵr "Gwenllïan, dere adre!" Y funud nesaf diflannodd y blaidd o flaen llygaid y ffermwr ac yn ei le safai'r wraig yn noethlymun. O hynny ymlaen câi ei hadnabod fel "y flaiddwraig" a gorfu iddi dalu am ei chig fel pawb arall.<ref name=Galwad />
 
===Blaidd-ddyn Gwenfô===
Roedd gŵr ifanc oedd yn byw ger [[Coed y Cymdda]] yng [[Gwenfô|Ngwenfô]] yn caru â merch o [[Tregatwg|Dregatwg]] ond fe'i gadawodd hi a phriodi un arall. Yn anffodus iddo ef roedd ei gariad cyntaf yn nith i [[gwrach|Wrach]] Gwenfô, ac ar noson y briodas gosododd y wrach ei gwregys torchog ar garreg rhiniog y priodfab. Wrth i'r ddau gamu drosto i'r t y fe drodd y priodfab yn flaidd-ddyn a rhuthro i ffwrdd i Goed y Cymdda. Pob nos byddai'n udo o gwmpas tŷ y wrach nes arswydo'r gymdogaeth a bu ei gwynfan torcalonnus yn Nhregatwg yn ddigon i yrru ei wraig ifanc i'w bedd yn fuan. Roedd Gwrach Gwenfô yn benderfynol o'i gael yn ŵr i'w nith a dyna a ddigwyddodd wedi iddi ei drawsnewid yn ôl yn ddyn drwy daflu croen oen wedi'i swyno drosto. Ond newidiodd ei meddwl wedyn pan welodd pa mor wael yr oedd yn trin ei nith ac fe'i trodd yn flaidd-ddyn unwaith eto. Bu farw'r wrach ac nid oedd rym yn y byd a allai ddadwneud ei gwaith. Treuliodd y blaidd-ddyn naw mlynedd yn y coed cyn iddo gael ei saethu'n ddamweiniol.<ref name=Galwad />
 
===Blaidd-ddyn Gresffordd===
[[Delwedd:BlaiddDig.jpg|bawd|dde|300px|[[Blaidd]] ysgyrnygus]]
Rhyw fore oer yn ystod gaeaf [[1791]] roedd ffermwr o blwyf [[Gresffordd]] yn ardal [[Wrecsam]] yn bugeilio'i ddefaid pan welodd olion palfau blaidd anferth yn yr eira. Gofynnodd i'r gof lleol ddod yn gwmni iddo i ddilyn y trywydd. Arweiniai'r olion tuag at dir cymydog iddynt ac wedi i'r ddau gyrraedd roedd golygfa erchyll yn eu hwynebu. Roedd y lle'n un llanast o ddefaid a gwartheg drylliedig a'r eira o'u cwmpas yn goch gan waed. Roedd y ffermdy'n dywyll ond drwy'r ffenestr gallent weld eu cymydog yn llechu dan fwrdd y gegin. Roedd e wedi bod o gwmpas y caeau y noswaith cynt pan welodd fwystfil anferth tebyg i flaidd yn rhuthro am ei gi gan rwygo'i wddw ag un brathiad. Ffodd y cymydog am ei einioes i mewn i'r ffermdy. Teimlodd y bwystfil yn hyrddio'i hun yn erbyn y drws nes bod yr holl le'n crynu. Wedi symud y dodrefn yn erbyn y drws aeth i guddio dan y bwrdd ond gallai weld y bwystfil yn syllu arno drwy'r ffenestr. Er mai pen blaidd oedd ganddo roedd ei lygaid gleision yn debycach i rai dynol. Pan welodd y blaidd-ddyn na allai gael gafael arno aeth i ddial ei lid ar y gwartheg a'r defaid oddi allan.
 
Barn y cymdogion oedd mai dim ond blaidd-ddyn a allai fod wedi achosi'r fath alanas. Aeth nifer mawr o ddynion i chwilio'r gymdogaeth amdano, ond er iddynt ddod ar draws digonedd o olion palfau, ni welwyd mo'r blaidd-ddyn yn unman.
 
Rhyw noson olau leuad y flwyddyn flaenorol, [[1790]], roedd bwystfil digon tebyg wedi ymosod ar geffyl lau'r goets fawr mewn llecyn unig rywle rhwng [[Dinbych]] a [[Wrecsam]]. Lladdwyd un o'r ceffylau yn y fan a'r lle, ac wedyn i un o'r lleill dorri'n rhydd o'r harnais, carlamodd i ffwrdd â'r bwystfil ar ei ôl.
 
Aeth saith mlynedd heibio cyn i'r blaidd-ddyn ymddangos y trydydd tro, deng milltir i'r dwyrain ar fryniau [[Bickerton]] yn [[Swydd Gaer]]. Yng ngolau'r lleuad gwelodd dau ŵr lleol ffurf blaidd yn sefyll ar gefnen o dir. Roedd ei udo mor iasoer nes iddynt fferru gan ddychryn. Drannoeth daethpwyd o hyd i gyrff dau dramp wedi'u llarpio mewn coedwig yn y cyffiniau.
 
Yn fuan wedyn derbyniodd gweinidog lleol lythyr dienw yn honni mai blaidd-ddyn oedd wedi llofruddio'r ddau dramp, ac mai ysbryd gŵr a gafodd ei losgi wrth y stanc gan hynafiaid y pentrefwyr ym [[1400]] oedd. Yn ôl awdur y llythyr yr unig ffordd i gael gwared ohono oedd i'r gweinidog baentio croes ar ddrws pob tŷ yn y pentref.<ref name=Galwad />
 
==Gweler hefyd==
*[[Bwystfil Gévaudan]]
 
==Nodiadau==
{{cyfeiriadau|group=nodiadau}}
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Creaduriaid mytholegol]]
[[Categori:Llên gwerin]]
[[Categori:Llên gwerin Cymru]]
 
[[als:Werwolf]]
[[ar:مستذئب]]
[[az:Likan]]
[[bg:Вълколак]]
[[br:Den-bleiz]]
[[ca:Home llop]]
[[cs:Vlkodlak]]
[[da:Varulv]]
[[de:Werwolf]]
[[en:Werewolf]]
[[eo:Homlupo]]
[[es:Hombre lobo]]
[[et:Libahunt]]
[[fa:گرگینه]]
[[fi:Ihmissusi]]
[[fr:Lycanthrope]]
[[fy:Wearwolf]]
[[gl:Lobishome]]
[[he:אדם זאב]]
[[hr:Vukodlak]]
[[hu:Farkasember]]
[[hy:Մարդագայլ]]
[[id:Manusia serigala]]
[[io:Volfo-homo]]
[[is:Varúlfur]]
[[it:Licantropo]]
[[ja:狼男]]
[[ko:늑대인간]]
[[la:Lycanthropus]]
[[li:Waerwouf]]
[[lt:Vilkolakis]]
[[lv:Vilkacis]]
[[ms:Serigala jadian]]
[[nah:Tlācacuetlāchtli]]
[[nl:Weerwolf]]
[[nn:Varulv]]
[[no:Varulv]]
[[pl:Wilkołak]]
[[pt:Lobisomem]]
[[ro:Pricolici]]
[[ru:Оборотень]]
[[scn:Lupu mannaru]]
[[simple:Werewolf]]
[[sk:Vlkolak]]
[[sl:Volkodlak (bajka)]]
[[sr:Вукодлак]]
[[sv:Varulv]]
[[th:มนุษย์หมาป่า]]
[[tr:Kurt Adam]]
[[uk:Вовкулака]]
[[vi:Người sói]]
[[wa:Leu-waerou]]
[[zh:狼人]]
[[zh-yue:人狼]]