Fi

Simon Dyda ydw i. Cefais fy ngeni ar 3 Hydref, 1972, yn Gütersloh, Nordrhein-Westfalen, yn yr Almaen, ond mae fy nheulu'n hanu o Walchmai ar Ynys Môn, o Bort Glasgow. Inverclyde yn yr Alban, ac o Wlad Pwyl. Cefais fy magu yn yr Awyrlu Brenhinol, ar Ynys Môn ac yn Sir Benfro yng Nghymru, Swydd Rydychen, Swydd Buckingham a Norfolk yn Lloegr, a Moray yn yr Alban.

Euthum i Ysgol David Hughes, Porthaethwy rhwng 1985 a 1990 ac astudiais Iaith a Llenyddiaeth y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

Cerddorwr a darpar-awdur ydw i sy'n byw yng Nghaernarfon.

Fi oedd awdur y blog gwleidyddol Cymreig The Dyda Dispatches aka Ordovicius (2007-2009) ac fel blogwr gwleidyddol dwi wedi cyfrannu erthyglau i Barn ac Iain Dales' Guide To Political Blogging In The UK 2007-2008, yn ogystal ag ymddangos yn Golwg a'r Western Mail ac ymddangos ar CF99 (S4C}. Blogwr Preswyl Swyddogol oeddwn i yng nghynhadledd flynyddol Plaid Cymru yn 2009. Fel cerddorwr dwi wedi ymddangos ar C2.

Dwi hefyd wedi bod yn astudio ocwltiaeth, mytholeg, areoleg, daearyddiaeth, crefydd, diwylliant a gramadeg ieithoedd Indo-Ewropeaidd ers yr 1980au. Dwi'n siarad Cymraeg, Saesneg, Sbaeneg, Almaeneg, Aragoneg ac Esperanto.

Dwi'n defnyddio Geiriadur yr Academi, Gramadeg y Gymraeg, Y Termiadur, Y Geiriadur Mawr, Y Geiriadur Cyfoes, Y Llyfr Berfau, Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru ac Y Golygiadur.