Anarchiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 6:
==Anarchiaeth Gymdeithasol==
Ideoleg a chwympiff dan gategori mwy eang sosialaeth rhyddfrydol yw anarchiaeth gymdeithasol neu anarchiaeth sosialaidd. Geilw am gymdeithas lle bu'r ffurf gynhyrchu yn nwylo'r gweithwyr ac eiddo mewn perchnogaeth gymunedol, gydag unigolion yn cydweithio mewn grwpiau gwirfoddol, democrataidd heb hierarchaeth. Gwelir rhai anarchwyr y grwpiau gwirfoddol yma yn cydweithio gydag eraill ar haenau uwch mewn modd ffederal (eto gwirfoddol), er mwyn wneud penderfyniadau uwch. Bu'n gwrthwynebu'r wladwriaeth yn ogystal i gyfalafiaeth - gwelir y ddau yn ynghlwm, y wladwriaeth yn amddiffyn hawliau eiddo ac felly cyfalafiaeth. Yn ôl anarchwyr
Cymdeithas [[Comiwnyddiaeth|gomiwnyddol]] yw un anarchiaeth gymdeithasol felly. Ond er ei bod hefyd yn ideoleg chwyldroadol, yn wahanol i [[Marcsiaeth|Farcsiaeth]] traddodiadol nid yw'n galw am gyfnod o wladwriaeth sosialaeth cyn cyrraedd comiwnyddiaeth. I anarchwyr cymdeithasol mae gwladwriaeth sosialaidd, neu wladwriaeth ddemocrataidd yn amhosib, gan ni ellid ymgorffori'r bobl (y dosbarth gweithiol) o fewn gwladwriaeth oherwydd ei natur ganolig a gorfodol. Rhaid chwalu'r wladwriaeth er mwyn chwalu cyfalafiaeth, nid defnyddio'r wladwriaeth yn erbyn cyfalafiaeth. Dywedodd yr anarchydd Mikhail Bakunin ar y gwrthgyferbyniad elfennol gwelodd ym Marcsiaeth, "er mwyn rhyddhau'r bobl rhaid gyntaf eu caethiwo"<ref>[http://www.marxists.org/reference/archive/bakunin/works/1873/statism-anarchy.htm Mikhail Bakunin, ''Statism and Anarchy'']</ref>.
|