Croeso golygu

Shwmae, Diobaithyn! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd.   Welcome message in English
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 280,341 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
 
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
 
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
 
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
 
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
 
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
 
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
 
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
 
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
 
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
 
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes, -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 23:05, 15 Awst 2010 (UTC)Ateb

Marcsiaeth golygu

Helo a chroeso i'r Wicipedia :o) Diolch am ehangu ar yr erthygl Marcsiaeth. Dim ond un cwestiwn bach - ai eich gwaith eich hun yw'r darn a ychwanegwyd? Y rheswm dw i'n gofyn yw oherwydd rheolau hawlfraint. Os mai chi sydd wedi ei ysgrifennu, yna gret - does dim problem ond os mai nodiadau rhywun arall ydyw, yn anffodus ni fydd modd defnyddio'r wybodaeth fel ag y mae. Diolch. Pwyll 20:03, 10 Chwefror 2011 (UTC)Ateb

O dop fy mhen daw'r paragraffau ychwanegais (y gwyb. wrth gwrs o Das Kapital a'r Maniffesto Comiwnyddol). Am ychydig o bwyntiau ychwanegol (ac am help ar siwd i drefnu'r peth) edrychais ar y erthygl Marxism ar y wicipedia Saesneg (yn enwedig ar y rhan ar fateroliaeth hanesyddol). Mae'r dyfyniad byr yn y rhan yma o'r Maniffesto Comiwnyddol yn dod o gyfieithiad 1948 W.J.Rees. Nes i geisio cyfieithu'r dermau eraill (surplus value a reserve army of the unemployed ayyb), ond rwy'n siwr bydd angen peth cywiro arnynt. Beth yn union yw'r rheolau ar ddyfyniadau? --Diobaithyn 20:27, 10 Chwefror 2011 (UTC)Ateb
O ran dyfyniadau o lyfrau a.y.b. mae angen nodi'r cyfeiriadau. Mae'r ddolen references or footnotes yn cyfeirio at y dudalen gymorth Saesneg, sy'n esbonio sut mae gwneud hynny. Gobeithio fod hyn o ddefnydd. Pob lwc! Pwyll 19:17, 11 Chwefror 2011 (UTC)Ateb