Robert Peel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Diobaithyn (sgwrs | cyfraniadau)
Cael gwared ar duedd - newid o "roedd Peel yn sylweddoli bod rhaid i Doriaieth newid i oroesi" i "credodd"
Diobaithyn (sgwrs | cyfraniadau)
Ychwanegu ddarn ar flynyddoedd cynnar, creu'r is-deitlau
Llinell 17:
| plaid=[[Y Blaid Geidwadol (DU)|Ceidwadol]]
}}
Sylfaenydd [[y Blaid Geidwadol]] fodern oedd '''Syr Robert Peel''' ([[5 Chwefror]] [[1788]] – [[2 Gorffennaf]] [[1850]]), [[Prif Weinidogion y Deyrnas Unedig|Prif Weinidog y Deyrnas Unedig]] rhwng Rhagfyr 1834, ac Ebrill 1835 a rhwng Awst 1841, a Mehefin 1846. Diwydiannwyr oedd ei deulu, a chafodd ei ddisgrifio gyda chryn snobyddiaeth gan Ddug Wellington fel dyn o "''low birth and vulgar manners''."
 
==Cefndir a blynyddoedd cynnar==
Ganwyd yn Chamber Hall, Bury ger Fanceinion, ar y 3ydd o Chwefror 1788. Roedd yn trydydd mab i'w dad, hefyd o'r enw Robert Peel, AS Torïaidd a oedd yn gyfrifol am Deddf Ffactori yn 1802. Diwydianwyr oedd ei deulu, a chafodd ei ddisgrifio gyda chryn snobyddiaeth gan Ddug Wellington fel dyn o "''low birth and vulgar manners''." I geisio gwrthdroi'r fath syniadau, megis nifer o blant ''novo riche'' eraill oedd yn ceisio esgyn ym myd y tirfeddianwyr traddodiadol, anfonwyd fab i Ysgol Harrow yn 1800. Dechreuodd ei astudiaethau yn ''Christ Church'', [[Rhydychen]] yn 1805 lle daeth yn fyfyriwr galluog. Erbyn 1809, ar argymhellant Arthur Wellsley, yr un dyn a ddaeth i fod y Dug Wellington a ddisgrifiodd ei dras mor snoblyd - daeth yn AS i sedd Gwyddelig Ddinas Cashel, bwrdeistref ag ond deuddeg pedwar pleidleisiwr. Dyma oedd dechreuad dau thema pwysig ym mywyd Peel - ei bartneriaeth bwysig â'r Dug Wellington a chysylltiad ei yrfa wleidyddol i Iwerddon.
 
==Gyrfa wleidyddol==
Nid oedd pleidiau gwleidyddol ffurfiol i'w cael ym mlynyddoedd cynnar y 19eg ganrif, ond roedd dwy brif garfan yn y Senedd, sef y Chwigiaid a'r Torïaid. Er bod y ddwy garfan yn geidwadol iawn wrth safonau heddiw, roedd y Chwigiaid fel arfer yn fwy cefnogol i newid. Roedd yn Torïaid yn canolbwyntio'n draddodiadol ar amddiffyn [[Eglwys Loegr]] rhag Catholigiaeth ac Anghydffurfiaeth, ac ar amddiffyn buddiannau tirfeddianwyr cefn gwlad rhag masnachwyr y trefi. Credodd Robert Peel bod rhaid i hyn newid er mwyn i Dorïaeth oroesi.