Hengwrt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:HengwrtChaucerOpening.jpg|220px|bawd|Tudalen gyntaf llawysgrif yr ''Hengwrt Chaucer'' (Llyfrgell Genedlaethol Cymru).]]
[[PlasdyPlasty]] ger [[Dolgellau]] ym [[Meirionnydd]], de [[Gwynedd]], yw '''Hengwrt'''. Gorwedd i'r gogledd-orllewin o Ddolgellau ger [[Abaty Cymer]], ger cymer [[Afon Mawddach]] ac [[Afon Wnion]].
 
[[Delwedd:HengwrtChaucerOpening.jpg|220px|bawd|Tudalen gyntaf llawysgrif yr ''Hengwrt Chaucer'' (Llyfrgell Genedlaethol Cymru).]]
Mae'n enwog yn hanes [[llenyddiaeth Gymraeg]] fel cartref i un o'r casgliadau pwysicaf o [[llawysgrifau Cymreig|lawysgrifau Cymreig]]. Daeth y llawysgrifau hyn i feddiant y casglwr llawysgrifau a hynafiaethydd [[Robert Vaughan]] (?1592-1667) o'r Hengwrt yn ystod yr 17eg ganrif. Roeddent yn cynnwys trysorau fel ''[[Llyfr Gwyn Rhydderch]]'', ''[[Llyfr Du Caerfyrddin]]'', ''[[Llyfr Taliesin]]'' a ''[[Llyfr Aneirin]]'', ynghyd â thestunau o ''[[Brut y Tywysogion]]'' a [[Cyfraith Hywel|llyfrau cyfraith]]. Roedd y casgliad yn cynnwys copi cynnar pwysig o waith [[Chaucer]] hefyd, a adnabyddir fel yr "''Hengwrt Chaucer''" neu, yn gamarweiniol, yr "''Hengwrt Manuscript''".
 
ArosoddArhosodd y llawysgrifau hyn yn ddiogel yn llyfrgell enwog Hengwrt am tua 300 mlynedd. Gwelodd yr hynafiaethydd [[Edward Lhuyd]] y llyfrau yno yn [[1696]]. Bu nifer o hynafiaethwyr y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif yn ymweld â'r plasdyplasty i gael gweld a chopïo'r llawysgrifau, yn cynnwys [[Ieuan Fardd]], [[William Owen Pughe]] aac [[Iolo Morganwg]]. Etifeddwyd y llyfrgell gan William Watkin Edward Wynne o blas [[Peniarth]] yn [[1859]] ac ar ôl i Syr [[John Williams (casglwr llawysgrifau)|John Williams]] ei phrynu cafodd casgliad Peniarth, yn cynnwys y Llyfr Du, ei roi i'r [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Llyfrgell Genedlaethol]] newydd yn Aberystwyth.
 
Enwir ystafell arddangos Hengwrt, sy’n arddangos llawysgrifau prin y Llyfrgell Genedlaethol, ar ôl Hengwrt.
Llinell 12:
==Dolenni allanol==
* [http://www.llgc.org.uk/index.php?id=257&L=1 Yr "''Hengwrt Chaucer''"] ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
 
 
[[Categori:Dolgellau]]