Gaius Marius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: be:Гай Марый
Sebleouf (sgwrs | cyfraniadau)
B WPCleaner v1.13 - Link equal to linktext (Corrigé avec Wicipedia:WikiProject Check Wikipedia)
Llinell 3:
Cadfridog a gwleidydd Rhufeinig oedd '''Gaius Marius''' ([[157 CC]]–[[13 Ionawr]], [[86 CC]]). Etholwyd ef i swydd [[Conswl Rhufeinig]] saith gwaith, mwy na neb o'i flaen, a gwnaeth newidiadau pellgyrhaeddol i fyddin Rhufain.
 
Ganed Marius yn nhref [[Arpinum]] yn ne [[Latium]]. Yn 134 CC, roedd yn y fyddin yn ymladd yn [[Numantia]], a daeth i sylw [[Publius Cornelius Scipio Aemilianus Africanus|Publius Cornelius Scipio Aemilianus Africanus]]. Etholwyd ef yn dribwn milwrol ac yn ddiweddarach i swydd [[quaestor]]. Yn 120 CC etholwyd ef yn dribwn y bobl am y flwyddyn ddilynol. Yn 116 CC etholwyd ef i swydd [[praetor]], ac yn 114 CC gyrrwyd ef i lywodraethu talaith [[Lusitania]]. Wedi dychwelyd i Rufain, priododd [[Julia (modryb Cesar)|Julia]], modryb [[Iŵl Cesar]].
 
Yn [[109 CC]] apwyntiwyd Quintus Caecilius Metellus i ymgyrchu yn erbyn [[Jugurtha]] yn Ngogledd Affrica, ac aeth a Marius gydag ef fel legad. Yn fuan wedyn bu ffrae rhwbng y ddau. Gofynnodd Marius i Metellus am ganiatad i'w gynnig ei hun i'w ethol fel conswl, ond dywedodd Metellus y dylai ddisgwyl nes gallai sefyll etholiad ar y cyd a mab Metellus. Gan na fyddai mab Metellus yn ddigon hen i'w ethol fel conswl am ugain mlynedd arall, dechreuodd Marius ymgais i droi'r cyhoedd yn erbyn Metellus. Yn [[108 CC]] etholwyd ef yn gonswl am y flwydduyn ddilynol, a diswyddwyd Metellus i wneud Marius yn bennaeth y fyddin oedd yn ymladd a Jugurtha.