Owain Lawgoch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: ga:Owain Lawgoch
Sebleouf (sgwrs | cyfraniadau)
B WPCleaner v1.14 - en dash or em dash - Reference with punctuation (Corrigé avec Wicipedia:WikiProject Check Wikipedia)
Llinell 1:
[[Delwedd:Tarian Glyndwr Arfbais PNG.png|bawd|200px|Arfbais Owain Lawgoch, a fabwysiadwyd yn ddiweddarach gan [[Owain Glyndwr]].]]
 
Roedd '''Owain Lawgoch''', enw bedydd '''Owain ap Thomas ap Rhodri''' (Ffrangeg, ''Yvain de Galles'' "Owain Gymro"; Saesneg, ''Owain of the Red Hand'') (tua [[1330]] – Gorffennaf [[1378]]), yn ŵyr i [[Rhodri ap Gruffudd]], brawd [[Llywelyn Ein Llyw Olaf]]. Ef oedd etifedd olaf llinach tywysogion Aberffraw yn y llinach wrywaidd uniongyrchol, a chyhoeddodd Owain ei hun yn [[Tywysog Cymru|Dywysog Cymru]]. Treuliodd ran helaeth o'i oes fel milwr yn [[Ffrainc]], yn ymladd dros frenin Ffrainc yn erbyn [[Lloegr]] yn y [[Rhyfel Can Mlynedd]]. Cynlluniodd nifer o ymgyrchoedd i Gymru i hawlio ei etifeddiaeth, ond ni lwyddodd i lanio yno. Llofruddiwyd ef gan asiant cudd y llywodraeth Seisnig tra'n gwarchae ar gastell [[Mortagne-sur-Gironde|Mortagne]].
 
==Llinach==
Llinell 32:
[[Delwedd:Jean Fouquet - Remise de l'épée de connetable à Bertrand Duguesclin - Enluminure (XVe siècle).jpg|bawd|chwith|210px|Y brenin Siarl V yn cyflwyno cleddyf Cwnstabl Ffrainc i Bertrand du Guesclin, [[2 Hydref]] [[1369]].]]
 
Nid oes sicrwydd pa bryd y daeth Owain i wasanaeth brenin Ffrainc. Dywed John Davies "ymddengys iddo tua 1350 ymrwymo i wasanaeth brenin Ffrainc",<ref>John Davies ''Hanes Cymru'' (2007) t. 175</ref>, a dywed [[Jean Froissart|Froissart]] ei fod wedi mynd i Ffrainc yn ŵr ieuanc ac wedi ymladd ar ochr Ffrainc ym [[Brwydr Poitiers (1356)|Mrwydr Poitiers]] yn [[1356]],<ref>Carr ''Owen of Wales'' t. 19</ref>, ond yn ôl A.D. Carr nid oes sicrwydd ei fod yng ngwasanaeth Ffrainc hyd 1369. Pan fu farw ei dad yn 1363, roedd Owain dramor, yn Ffrainc yn ôl pob tebyg. Dychwelodd i Loegr i hawlio ei etifeddiaeth yn [[1365]]; gallai wneud hynny'n ddiogel ar y pryd hyd yn oed os oedd yng ngwasanaeth brenin Ffrainc, oherwydd ei fod yn gyfnod o heddwch. Dychwelodd i Ffrainc yn [[1366]], ac wedi i'r rhyfel ail-ddechrau yn 1369, fforffedodd ei diroedd yng Nghymru a Lloegr.<ref>Carr ''Cymru a'r Rhyfel Canmlynedd'' tt. 18-9</ref>
 
Roedd ganddo oddeutu 400 o Gymry yn ei 'gwmni rhydd' ac yn eu plith [[Ieuan Wyn (milwr)|Ieuan Wyn]] (disgynydd [[Ednyfed Fychan]]) a Hywel Fflint (a oedd yn gyfrifol am ddal Syr Thomas Percy'n garcharor. Roedd yn gyfaill ac yn un o llawiau [[Bertrand du Guesclin]], milwr pwerus iawn o Lydaw yn ogystal â brenin Ffrainc, [[Siarl V, brenin Ffrainc|Siarl V]].
Llinell 117:
[[Delwedd:Castle Cornet Guernsey.jpg|bawd|200px|Caestell Cornet at Ynys y Garn; castell y bu Owain yn gwarchae arno]]
 
Ceir chwedloniaeth am Owain ar Ynys y Garn hefyd, lle cofir amdano fel ''Yvon de Galles''. Troes y côf amdano ef a'i wŷr yn chwedl am ymgyrch gan lu o [[Tylwyth Teg|dylwyth teg]], bychain ond golygus. Cafodd merch o'r enw Lizabeau hyd i frenin y tylwyth teg hyn wedi ei longddryllio ar draeth ar yr ynys. Wedi iddo ddeffro, syrthiodd brenin y tylwyth teg mewn cariad a hi, a chariodd hi dros y môr i fod yn frenhines iddo. Fodd bynnag, roedd y tylwyth teg eraill yn dymuno cael gwragedd hefyd, ac ymosodasant ar yr ynys. Lladdwyd pawb o wŷr yr ynys heblaw dau, a ymguddiodd mewn ogof, a phriododd y tylwyth teg a merched Ynys y Garn. Hyn, yn ôl y chwedl, sy'n gyfrifol am y ffaith fod trigolion Ynys y Garn yn fychan a bod ganddynt wallt tywyll.<ref>Marie de Garis ''Folklore of Guernsey'' (1986) ASIN: B0000EE6P8</ref>.
 
Cadwyd baled am Owain a'i wŷr o Ynys y Garn hefyd. Mae'r faled yn hollol anhanesyddol o ran y digwyddiadau a nodir, ond dywedir fod gan Owain wraig o'r enw Elinor. Mae hefyd yn rhoi eglurhad am yr enw "Lawgoch" trwy adrodd fod yn o wŷr Ynys y Garn wedi ei glwyfo yn ei law.
Llinell 140:
| cyn=[[Thomas ap Rhodri]]
| teitl=Pennaeth Tŷ Aberffraw
| blynyddoedd=[[1363]]&ndash;[[1378]]
| ar ôl=[[Robert ap Maredudd]]}}
{{bocs-olyniaeth
| cyn=[[Madoc ap Llywelyn|Madoc]]
| teitl=Tywysog Gwynedd a Chymru mewn enw
| blynyddoedd=[[1372]]&ndash;[[1378]]
| ar ôl=[[Owain Glyndŵr]]}}
{{diwedd-bocs}}