Beirdd y Tywysogion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu |
|||
Llinell 1:
Arferid cyfeirio at y [[Bardd llys|beirdd llys]] a ganai yn [[Oes y Tywysogion]] fel [[y Gogynfeirdd]] ond erbyn heddiw defnyddir yr enw Beirdd y Tywysogion. Mae'r term Gogynfeirdd yn cynnwys rhai o'r beirdd a flodeuai ar ddechrau'r [[14eg ganrif]] yn null traddodiadol Beirdd y Tywysogion; ond serch hynny maen nhw'n perthyn i gyfnod [[Beirdd yr Uchelwyr]] pan gollasid nawdd y llysoedd brenhinol mawr.
Fe'u gelwir yn Feirdd y Tywysogion am eu bod, bron yn ddieithriad, yn feirdd uchel eu parch a statws a ganai i dywysogion Cymru yn ystod y cyfnod rhwng dyfodiad y [[
Y cynharaf o'r beirdd hyn oedd [[Meilyr Brydydd]], bardd llys [[Gruffudd ap Cynan]]. Ymhlith y beirdd mwyaf yn eu mysg yw [[Cynddelw Brydydd Mawr]], [[Llywarch ap Llywelyn]], [[Dafydd Benfras]], [[Bleddyn Fardd]] a [[Gruffudd ab Yr Ynad Coch]] a ganodd [[Marwnad|farwnad]] rymus i Lywelyn Ein Llyw Olaf. Eithriad i'r drefn oedd [[Hywel ab Owain Gwynedd]], a oedd yn fardd ac yn dywysog ac felly'n rhydd i ddilyn ei drwydded ei hun, a [[Madog ap Gwallter]] a oedd yn frawd crefyddol.
|