Brwydr Salamis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
Yn 480 CC. ymosododd [[Xerxes I. brenin Persia]] ar y Groegiaid gyda byddin a llynges enfawr, gyda’r bwriad o wneud Groeg yn rhan o’r Ymerodraeth Bersaidd. Croesodd ei fyddin yr [[Hellespont]] ar bont wedi ei gwneud o longau, a meddiannodd ei fyddin ogledd Groeg, cyn anelu tua’r de, gyda’r llynges yn cadw cysylltiad a’r fyddin. Ymladdwyd [[Brwydr Artemisium]] rhwng y ddwy lynges heb ganlyniad clir, a’r un pryd ymladdwyd [[Brwydr Thermopylae]] ar y tir. Pan glywodd y llynges fod amddiffynwyr Thermopylae i gyd wedi eu ladd, symudodd y llynges tua’r de.
 
Roedd dadl yn Athen ynglyn a beth i’w wneud, gyda rhai o’r dinasyddion yn annog brwydro yn erbyn y fyddin Bersaidd ar y tir, fel y gwnaeth Athen yn llwyddiannus yn erbyn byddin Bersaidd lawer llai ym [[Brwydr Marathon| Mrwydr Marathon]] ddeng mlynedd yn gynt. Mynnai [[Themistocles]] y dylai’r Atheniaid adael eu dinas a dibynnu arear ueu llynges, ac ef a ennilloddenillodd y ddadl. Llwyddodd hefyd i berswadio’r Groegiaid eraill i ymladd ger Salamis; roedd y [[Sparta|Spartiaid]] yn arbennig yn argymell tynnu’n olencilio i’r [[Peloponnesos]]. Cipiodd y Persiaid ddinasoedd [[Plataea]] a [[Thespiae]] yn [[Boeotia]], yma aethant ymlaen i feddiannu dinas Athen.
 
Yn llynges y Groegiad, roedd 378 o longau yn olôl Herodotus, sydd wedyn eu euieu rhestru fel a ganlyn:
 
{| class="wikitable"
Llinell 39:
|}
 
Agrwymwyd fod y 12 llong nad yw Herodotus yn rhoi cyfrif ohonynt yn dod o [[Aegina]]. Mae awduron eraill yn rhoi niferordd gwahanol, er enghraifft 310 yn olôl [[Aeschylus]]. Yn ymarferol, Themistocles oedd yn rheoli’r llynges, ond enwyd [[Eurybiades]] o Sparta fel llynghesydd. Nid oes sicrwydd faint o longau oedd gan y Persiaid, ond mae nifer o awduron modern yn awgrymu tua 650. Yn wreiddiol roedd ganddynt, eto yn olôl Herodotus, 1,207 o longau pan ddechreuodd Xerxes ei ymgyrch, ond roedd llawer wedi eu colli yn y cyfamser mewn stormydd. Roeddynt yn cynnwys llongau o nifer o’r gwledydd oedd yn rhan o’r Ymerodraeth Bersaidd, yn enwedig y [[Ffeniciaid]], yr [[Yr Aifft|Eifftiaid]] a Groegiaid o [[Ionia]].
 
Symudodd y llynges Bersaidd i lawr yr arfordir i gyfeiriad Ynys Salamis. Dywed Herodotus fod Xerxes wedi gosod gorsedd ar Ynys Salamis uwchben y culfor i wylio’r frwydr. Dywed Herodotus hefyd fod y dadlau yn parhau rhwng Themistocles ac Eurybiades, oedd yn dymuno ymladd y frwydr ymhellach tua’r de, yn nes i ddinas [[Corinth]]. GyrroeddGyrrodd Themistocles ei gaethwas, Sicinnus, athro ei blant, at Xerxes gyda neges, sef y byddai’r Groegiaid yn ffoi tua’r de yn ystod y nos, ac y dylai ymosod ar unwaith i’w dal cyn iddynt ddianc.
 
[[Image:Trireme.jpg|right|thumb|chwith|250px|Trireme Groegaidd]]
 
Y bore wedyn roedd y Persiaid yn symud i mewn i’r culfor i ymosod. Wrth iddynt ddynesu, enciliodd y llongau Groegaidd nes cyrraedd rhan gulch o’r culfor rhwng Salamis a’r tir mawr, fel bod y Persiaid yn methu manteisio ar y nifer mwy o longau oedd ganddynt. Lladdwyd y llynghesydd Persaidd Ariamenes wrth ymladd a llong Themistocles; ac ymddengys i hyn beri trafferthion mawr i’r Persiaid gan nad oedd dirpwy iddo i gymeryd rheolaeth ar y llynges. Suddwyd o leiaf 200 o longau Persaidd, a gyrrwyd y gweddill ar ffo. Dioddefodd y Persiaid golledion enbyd gan nad oedd y rhan fwyaf ohonynt yn medru nofio, yn wahanol i’r Greogiaid.