Brwydr Salamis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 45:
[[Image:Trireme.jpg|thumb|chwith|250px|Trireme Groegaidd]]
 
Y bore wedyn roedd y Persiaid yn symud i mewn i’r culfor i ymosod. Wrth iddynt ddynesu, enciliodd y llongau Groegaidd nes cyrraedd rhan gulch o’r culfor rhwng Salamis a’r tir mawr, fel bod y Persiaid yn methu manteisio ar y nifer mwy o longau oedd ganddynt. Lladdwyd y llynghesydd Persaidd Ariamenes wrth ymladd a llong Themistocles; ac ymddengys i hyn beri trafferthion mawr i’r Persiaid gan nad oedd dirpwy iddo i gymeryd rheolaeth ar y llynges. Suddwyd o leiaf 200 o longau Persaidd, a gyrrwyd y gweddill ar ffo. Dioddefodd y Persiaid golledion enbyd gan nad oedd y rhan fwyaf ohonynt yn medru nofio, yn wahanol i’r GreogiaidGroegiaid.
 
Oherwydd dinistr ei lynges, ni allai Xerxes gadw ei holl fyddin yng Ngwlad Groeg, ac enciliodd i [[Asia Leiaf]], gan adael rhan o’r fyddin dan [[Mardonius]] i barhau’r frwydr ac i warchod y rhannau oedd wedi eu concro. Y flwyddyn ganlynol gorchfygwyd Mardonius gan y Groegiaid ym [[Brwydr Platea|Mrwydr Platea]] ac roedd ymgyrch Xerxes yn erbyn Groeg ar ben.