Sgerbwd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
dileu rwts
Llinell 1:
[[Delwedd:Skeleton.jpg|100px|bawd|de|Sgerbwd dynol]]
 
Gwefan Cymraeg gyda yr un enw a Sgerbwd (Skeleton)Ewch i'r wefan [http://sgerbwd.yolasite.com/ yma] / e-bostiwch ni Sgerbwd@live.com / neu dilynwch ni ar trydar (twitter)@Sgerbwd
 
 
 
 
 
 
Cysylltwaith o [[asgwrn|esgyrn]] y tu mewn i'r [[corff]], ac sy'n ei gynnal, yw '''sgerbwd''', adnabyddir weithiau fel y '''system ysgerbydol'''. Mae ganddo dair swyddogaeth. Mae'n gallu amddiffyn y corff: mae'r [[penglog]], er enghraifft, yn amddiffyn yr [[ymennydd]]. Mae hefyd yn cynnal y corff. Dyna sut yr ydym yn gallu sefyll i fyny yn syth, er enghraifft. Yn drydydd, y ffaith bod cyhyrau wedi eu glynu wrth yr esgyrn a bod cymalau yn ein [[asgwrn|hesgyrn]] sy'n golygu y gallwn symud ein corff.
 
Mae'n gweithio ar y cyd gyda'r [[cyhyrau]], er mwyn symud corff [[dyn]] neu [[anifail]]; mae'r system yn cynnwys yr [[asgwrn|esgyrn]] a'r [[ysgerbwd]], (sy'n cynnal ffram y corff), [[cartilage|y cartilag]], [[gewyn|y gewynnau]] a'r [[tendons]]. Mae'r corff dynol yn cynnwys 206 asgwrn sy'n fframwaith cadarn i ddal gweddill yr organau. Er mwyn symud y sgerbwd mae'n rhaid cael [[cyhyr]]au, pâr ohonynt i weithio ar y cyd. Mae gan yr sgerwd (fel a ddywedir ar lafar) gartilag er mwyn ystwythder. Stribedi cryf o feinwe ydy'r ligament, sy'n dal yr [[esgyrn]] at ei gilydd a [[gewynnau]]'n dal y cyhyr yn sownd i'r asgwrn.
 
[[Delwedd:ElephantSkelLyd2.png|bawd|ddechwith|Ysgerbwd eliffant]]
 
Mae gan un grŵp o anifeiliaid ysgerbwd allanol ('exoskeleton') ac ar adegau, gall yr anifail fwrw'r ysgerbwd er mwyn tyfu un arall. Sôn am yr ysgerbwd dynol mae'r rhan fwyaf o'r erthygl hon, fodd bynnag, sef yr ysgerbwd mewnol ('endoskeleton').