Cristnogaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Makecat-bot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: wuu:基督教
caru>câr
Llinell 2:
Mae '''Cristnogaeth''' neu '''Cristionogaeth''' yn [[crefydd|grefydd]] [[undduwiaeth]] sy'n seiliedig ar ddysgeidiaeth a ffydd bersonnol yn [[Iesu Grist]]. Gosodir prif egwyddorion Cristnogaeth yn y [[Beibl]], casgliad o lyfrau a llythyrau a ysgrifennwyd yn yr iaith Aramaeg, Hebraeg a [[Groeg (iaith)|Roeg]] yn wreiddiol. Mae'r enw '''Crist''' yn dod o'r gair Groeg ''Χριστός (Christos)'' sy'n golygu "yr Eneiniog".
 
Gorchymyn cyntaf Iesu Grist oedd "caru Duw", a'r ail orchymyn oedd "carucâr dy gymydogdymydog" ([[Yr Efengyl yn ôl Marc|Marc]] XII:30,31 a [[Yr Efengyl yn ôl Luc|Luc]] X:27). Mae haeloni (anhunanoldeb), trugaredd a chyfiawnder yn ganolog i Gristnogaeth ond y cysyniad creiddiol yn y ffydd Gristnogol ydy [[Gras]] Duw. Hanfod Cristnogaeth ydy fod pob peth yn bosib trwy ras Duw ac fod y ddynoliaeth yn medru dod i berthynas a Duw ac etifeddu bywyd tragwyddol yn y Nefoedd trwy ffydd sy'n bosib trwy ras Duw ac nid trwy weithredoedd dynion. Canolbwynt y ffydd Gristnogol oedd gwaith Iesu Grist, rhan o'r Duwdod Cristnogol, a'r y Groes yn cymodi dyn a Duw. Gwel Cristnogion y weithred yma fel yr ymddangosiad amlycaf o ras eu Duw ac i'r Cristion "Crist ac yntau wedi ei groeshoelio" yw canolbwynt a man cychwyn eu ffydd.
 
Mae'n ymddangos nawr fod yr Iesu wedi ei eni tua [[4 CC]] ym [[Bethlehem|Methlehem]]. Does dim llawer o wybodaeth am ei fywyd cynnar nes iddo gyrraedd 30 oed pan benododd ddeuddeg o ddisgyblion (yr [[Apostol]]ion). Cafodd Iesu ei groeshoeli tua [[29]] OC, neu yn ôl amseryddiaeth yr [[Eglwys Gatholig]] [[7 Ebrill]] [[30]].