Khyber Pakhtunkhwa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (Robot: Yn newid tr:Kuzeybatı Sınır Eyaleti yn tr:Hayber-Pahtunhva |
Gilgit-Baltistan |
||
Llinell 2:
Lleolir '''Khyber Pakhtunkhwa''' ([[Wrdw]]: خیبر پختونخوا, [[Pashto]]: خیبر پښتونخوا) yng ngogledd-orllewin [[Pacistan]] am y ffin ag [[Affganistan]]. '''Talaith Ffin y Gogledd-Orllewin''' (Wrdw: ''śhumāl maġribī sarhadī sūbha'' شمال مغربی سرحدی صوبہ, [[Saesneg]]: ''North-West Frontier Province'' neu '''NWFP''') oedd enw'r dalaith tan 2010. Tarddodd yr enw o gyfnod [[Y Raj|reolaeth Prydain]] ar [[is-gyfandir India]] gan gyfeirio at yr is-gyfandir cyfan yn hytrach na thiriogaeth y Pacistan bresennol. Dyma'r lleiaf o bedair talaith Pacistan. Mae'n cynnwys rhan fawr o fynyddoedd uchel yr [[Hindu Kush]]. Y brifddinas yw [[Peshawar]], wrth droed y [[Bwlch Khyber]] enwog. Mae'n gartref i'r bobl [[Pashtun]] ('Pakhtun' yn lleol), sy'n siarad Pashto, ac fe'i gelwir yn [[Pakhtunistan]] hefyd o'r herwydd. Ceir sawl grŵp ethnig arall, llai, yn yr ardal. Poblogaeth: tua 20 miliwn.
O fewn Pacistan, mae'r dalaith yn ffinio â'r rhanbarth a elwir heddiw yr Ardaloedd Llwythol dan Weinyddiaeth Ffederal neu [[FATA]] (''Federally Administred Tribal Areas'') i'r de-orllewin, a fu yn rhan o'r NWFP hanesyddol ar un adeg,
Rhennir y dalaith yn sawl dosbarth ac ardal yn cynnwys [[Chitral]], [[Dir]], [[Swat]], [[Buner]] a [[Kohal]] yn y gogledd a [[Handu]] a [[Dera Ismail Khan]] yn y de.
|