HIV: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2+) (Robot: Yn newid da:HIV yn da:Hiv
→‎Symptomau HIV: newidiadau man using AWB
Llinell 6:
 
== Symptomau HIV ==
Nid yw'r rhan helaeth o bobl sydd a HIV yn ymwybodol eu bod wedi cael eu heintio oherwydd nad ydynt yn teimlo'n sâl yn syth ar ôl cael eu heintio â'r firws. Ar ôl dweud hyn, mae rhai pobl yn ystod seroaddasiad (''seroconversion'') yn datblygu beth a elwir yn Syndrom Gwrthfirws Dwys (''Acute Retroviral Syndrome''), sef symptomau tebyg i'r hyn a geir yn ystod [[twymyn y chwarennau]], gyda gwres, brech ar y croen, poen cymalau a gordyfiant o'r chwarennau lymff. Cyfeirir seroaddasiad i ddatblygiad [[gwrthgorff|gwrthgorffynnau]]ynnau (''antibodies'') i HIV sydd fel arfer yn digwydd rhwng un a chwe wythnos ar ôl i heintiad â HIV ddigwydd. Hyd yn oed os nad yw HIV yn achosi symptomau cynnar, mae person â HIV yn heintus iawn yn ystod y cyfnod cynnar hwn a gall drosglwyddo'r firws i berson arall. Yr unig ffordd i benderfynu os yw HIV yn bresennol, yw profi am wrthgorffynnau HIV neu am HIV ei hun. Ar ôl i HIV achosi dirywiad cynyddol o'r system imiwnedd, gall cynnydd mewn rhagdueddiad i heintiau ddilyn i symptomau. Mae'r [[WHO|Gyfundrefn Iechyd y Byd]] (''WHO''), yn gosod HIV mewn gwahanol gamau yn seiliedig ar gyfuno rhai symptomau, heintiau a chanserau;
 
* Heintiad HIV Cynradd: Gall fod yn asymptomatig neu gall ei brofi fel Syndrom Gwrthfirws Dwys.