HIV

wrth-firws, sy'n achosi syndrom diffyg imiwnolegol caffaeledig (AIDS)

Firws yw Firws Diffyg Imiwnedd Dynol (Saesneg: Human Immune Deficiency Virus neu HIV). Mae'n fath o firws a elwir yn wrth-firws (retrovirus), sy'n heintio celloedd o'r system imiwnedd dynol, (gan fwyaf celloedd T CD4 positif a macroffagau, sy'n gydrannau allweddol o'r system imiwnedd gellog), ac fe ddinistrir neu amharir ar eu gweithrediad. Mae heintiad â HIV yn arwain at ddirywiad cynyddol o'r system imiwnedd gan ddilyn i 'ddiffygiant imiwnedd'.

HIV
Enghraifft o'r canlynolorganebau yn ôl enw cyffredin Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1983 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysHIV type 1, HIV type 2 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Fe ystyrir y system imiwnedd yn ddiffygiol pan na ellir bellach gyflawni ei waith o ymladd afiechydon a heintiau. Mae pobl sydd â diffyg imiwnedd yn fwy tebygol o ddal heintiau sy'n anghyffredin ymysg pobl â system imiwnedd iach. Gelwir heintiau sy'n gysylltiedig â diffyg imiwnedd difrifol yn 'heintiau manteisgar' am eu bod yn cymryd mantais o system imiwnedd wan.

Nid oes iachâd i HIV ac nid oes brechlyn yn bodoli i atal heintio. Fodd bynnag, ers y 1990au, mae triniaethau cyffuriau sy'n atal gweithgaredd y firws yn y celloedd wedi cael eu datblygu. Mae'r rhain yn galluogi'r rhan fwyaf o bobl gyda HIV i aros yn iach a byw bywydau cymharol normal.

Retrofirwsau golygu

Mae retrofirwsau, fel HIV yn anarferol gan fod eu deunydd genetig yn cael ei godio mewn RNA ac nid DNA. Mae'r retrofirysau’n 'herwgipio' biocemeg y gell heintiedig i wneud llawer o gopïau o'u hunain. Yn y broses o greu'r copïau hyn er mwyn chwilio am fwy o gelloedd i'w heintio, caiff y gell heintiedig ei dinistrio. Mae'n arbennig o anodd datblygu brechlynnau ar gyfer retrofirysau gan eu bod yn mwtanu (newid) yn gyflym yn rhywogaethau newydd o firws. Hyd yma rydym wedi methu â darganfod ffordd o wneud brechlyn effeithiol ar gyfer HIV.

Caiff y firws HIV ei ymledu drwy gyfnewid hylifau corfforol, fel gwaed, semen a hylifau gweiniol. Y ffordd fwyaf cyffredin o ymledu HIV yw drwy gyfathrach rywiol, yn cynnwys rhyw geneuol a rhefrol. Gall y firws hefyd ymledu drwy rannu nodwyddau, a rhwng menyw feichiog a'i baban heb ei eni. Fodd bynnag, o ganlyniad i ddatblygiadau mewn triniaeth, mae nawr yn bosibl atal y firws rhag cael ei drosglwyddo rhwng mam a'i phlentyn.[1]

Symptomau HIV golygu

Nid yw'r rhan helaeth o bobl sydd a HIV yn ymwybodol eu bod wedi cael eu heintio oherwydd nad ydynt yn teimlo'n sâl yn syth ar ôl cael eu heintio â'r firws. Ar ôl dweud hyn, mae rhai pobl yn ystod seroaddasiad (seroconversion) yn datblygu beth a elwir yn Syndrom Gwrthfirws Dwys (Acute Retroviral Syndrome), sef symptomau tebyg i'r hyn a geir yn ystod twymyn y chwarennau, gyda gwres, brech ar y croen, poen cymalau a gordyfiant o'r chwarennau lymff. Cyfeirir seroaddasiad i ddatblygiad gwrthgorffynnau (antibodies) i HIV sydd fel arfer yn digwydd rhwng un a chwe wythnos ar ôl i heintiad â HIV ddigwydd. Hyd yn oed os nad yw HIV yn achosi symptomau cynnar, mae person â HIV yn heintus iawn yn ystod y cyfnod cynnar hwn a gall drosglwyddo'r firws i berson arall. Yr unig ffordd i benderfynu os yw HIV yn bresennol, yw profi am wrthgorffynnau HIV neu am HIV ei hun. Ar ôl i HIV achosi dirywiad cynyddol o'r system imiwnedd, gall cynnydd mewn rhagdueddiad i heintiau ddilyn i symptomau. Mae'r Gyfundrefn Iechyd y Byd (WHO), yn gosod HIV mewn gwahanol gamau yn seiliedig ar gyfuno rhai symptomau, heintiau a chanserau;

  • Heintiad HIV Cynradd: Gall fod yn asymptomatig neu gall ei brofi fel Syndrom Gwrthfirws Dwys.
  • Rhan Glinigol 1: Asymptomatig neu ordyfiant cyffredinol o'r chwarennau lymff.
  • Rhan Glinigol 2: Cynnwys colli ychydig o bwysau, amlygiadau mwcocwtonaidd, a heintiau'r rhan uchaf o'r system anadlu.
  • Rhan Glinigol 3: Cynnwys dolur rhydd cronig anesboniadwy, gwres uchel anesboniadwy parhaol, candidïasis y geg neu lewcoplacia, heintiau bacteriol difrifol, diciâu'r ysgyfaint, ac enyniad madreddol dwys yn y geg. Mae rhai pobl sydd yn Rhan Glinigol 3 gydag AIDS.
  • Rhan Glinigol 4: Cynnwys 22 o heintiau manteisgar neu ganserau ynghlwm â HIV. Mae pob person yn Rhan Glinigol 4 gydag AIDS.

Gall y rhan helaeth o'r heintiau manteisgar hyn gael eu trin yn hawdd mewn pobl fel-arall iach.

Diagnosis golygu

Oherwydd y cyffelybiaethau rhwng y symptomau â chyflyrau eraill, ar y gorau dim ond arwydd o haint HIV yw'r symptomau. Yr unig brawf diagnostig sicr yw prawf gwaed. Bydd y prawf ddim ond yn canfod HIV ar ôl tri mis wedi'r haint cychwynnol. Felly, mae'n arferol cynnal ail brawf tri mis ar ôl yr un cyntaf, er mwyn sicrhau bod y diagnosis yn gywir.[1]

Triniaeth golygu

PEP golygu

Proffylacsis Ôl-gysylltiad (PEP yw unrhyw driniaeth feddygol ataliol a ddechreuwyd ar ôl i amgen gael ei amlygu ,fel firws sy'n achosi afiechyd, er mwyn atal yr haint rhag digwydd. Er mwyn i'r driniaeth fod yn effeithiol, dylai hon ddechrau o fewn 72 awr (tri diwrnod) o'r cysylltiad, a chyntaf oll bydd yn dechrau, mwyaf effeithiol fydd hon. Fel rheol argymhellir PEP os ydych wedi cael rhyw gweiniol neu refrol diamddiffyn gyda rhywun sydd â HIV neu os ydych wedi derbyn rhyw rhefrol gan rywun sydd â phosibilrwydd uchel o fod â HIV. Er nad oes gwarant na fyddwch yn datblygu HIV, gall helpu i'ch amddiffyn Gellir hefyd ystyried PEP os ydych wedi rhoi rhyw geneuol (fellatio) i rywun sydd â HIV neu sydd â phosibilrwydd uchel o fod â HIV, ac fe wnaethon nhw alldaflu (ddod) yn eich ceg, neu os ydych wedi cael rhyw gweiniol neu refrol diamddiffyn gyda rhywun sydd â phosibilrwydd uchel o fod â HIV. Gellid hefyd cynghori gweithwyr gofal iechyd sydd wedi eu rhoi mewn perygl, e.e. drwy anaf 'pigiad nodwydd’, i gael PEP.[1]

Therapi gwrth-retrofirol tra gweithredol (HAART) golygu

Therapi gwrth-retrofirol tra gweithredol (HAART) yw'r defnydd o gyffuriau lluosog sy'n gweithredu ar dargedau firysau gwahanol. Me hyn wedi bod yn hynod o lwyddiannus yn arafu cynnydd y cyflwr ac estyn bywyd.

Mae ymchwilwyr yn hyderus y bydd y gwelliannau parhaus mewn therapi yn golygu y bydd person gyda HIV yn cael yr un rhychwant oes â rhywun nad oes ganddynt y cyflwr. Mae'r therapi'n cynnwys cyfuniad o foddion. Mae hyn oherwydd y gall HIV addasu'n gyflym a mynd yn ymwrthiol i un moddion penodol. Felly, mae angen cyfuniad o wahanol foddion. Ceir llawer o wahanol fathau o foddion y gellir eu defnyddio fel rhan o'ch therapi. Maen nhw'n cynnwys:

  • atalyddion transgriptas cildroi niwcleosid (NRTIau neu 'nukes')
  • atalyddion transgriptas cildroi diniwcleosid (NNRTIau neu 'non-nukes')
  • atalyddion proteas
  • atalyddion ymasiad
  • atalyddion integras

Mae'r gwahanol fathau o foddion hyn yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd, ond pwrpas pob un yw torri ar draws cylchred atgynhyrchiol y firws er mwyn arafu ei ymlediad ac amddiffyn y system imiwnedd. Argymhellir bod y rhan fwyaf o bobl gyda HIV yn cymryd dau fath o feddyginiaeth o'r dosbarth NRTIau, ynghyd â moddion o ddosbarth arall. Nod y driniaeth yw darganfod y cyfuniad gorau o foddion, a lleihau unrhyw sgil effeithiau.[1]

Rheolaeth golygu

Mae ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth cenedlaethol a rhyngwladol, ynghyd â chonsesiynau ar bris cyffuriau Haart i'w defnyddio mewn gwledydd trydydd byd yn rhan o reolaeth fyd-eang y firws. Gall dewisiadau dull o fyw priodol leihau'r tebygrwydd o ddal y clefyd, megus lleihau'r nifer o bartneriaid rhywiol.

Defnyddio condom yn ystod rhyw, yn cynnwys rhyw geneuol a rhefrol, yw'r ffordd orau o atal cael heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, yn cynnwys HIV. Defnyddio ireidiau seiliedig ar ddŵr fel jeli K-Y yn hytrach na Vaseline neu olew babanod fel iraid ar gyfer gweithgaredd rhywiol, gan fydd yr ireidiau diwethaf hyn sy'n seiliedig ar olew yn gwanhau condomau ac yn cynyddu'r posibilrwydd y byddant yn hollti.

Dylai chwistrellwyr cyffuriau osgoi rhannu nodwyddau gan y gallai hyn drosglwyddo HIV, ynghyd â firysau difrifol eraill a gludir drwy waed, fel hepatitis C..[1]

Hanes golygu

Mae union darddiad HIV yn parhau i fod yn anhysbys, ond mae'r rhan fwyaf o wyddonwyr yn cytuno bod ffurf o'r firws, a elwir yn SIVcpz (Firws Diffyg Imiwnedd Simiaidd ar gyfer tsimpansïaid), yn bresennol (ac yn dal i fod yn bresennol) mewn tsimpansïaid sy'n byw mewn rhannau o Affrica. Un ddamcaniaeth yw bod y firws wedi ymledu i fodau dynol a oedd yn hela'r tsimpansïaid, efallai am iddynt fod mewn cysylltiad agos â gwaed y tsimpansî heintiedig. Credir bod y ffurf ddynol o'r firws HIV wedi'i chyfyngu i ran anghysbell o Affrica am lawer o flynyddoedd. Fodd bynnag, pan agorwyd y rhan honno o Affrica gan gysylltiadau cludiant newydd, ymledodd y firws i rannau eraill o Affrica, cyn ymledu'n araf ar draws y byd.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in: |accessdate= (help)