Ebenezer Thomas (Eben Fardd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Cyhoeddiadau: rhyngwici
newidiadau man using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Eben Fardd.JPG|200px|bawd|Eben Fardd]]
Bardd ac ysgolfeistr oedd '''Ebenezer Thomas''', sy'n fwy adnabyddus wrth ei [[enw barddol]], '''Eben Fardd''' (Awst [[1802]] - [[17 Chwefror ]] [[1863]]). Roedd yn un o ffigurau llenyddol mwyaf dylanwadol ei oes, fel [[bardd]] a [[beirniadaeth lenyddol|beirniad]] [[eisteddfod]]ol.
 
Ganed Ebenezer Thomas gerllaw [[Llangybi]] yn [[Eifionydd]], yn fab i wehydd. Addysgwyd ef yn [[Llanarmon]], Llangybi ac [[Abererch]]. Pan fu farw ei frawd, Evan, oedd yn cadw ysgol yn Llangybi, cymerodd ofal yr ysgol yn 1822. Daeth i adnabod beirdd amlwg y cylch, [[Robert ap Gwilym Ddu]] a [[Dewi Wyn]], a dechreuodd farddoni ei hun. Yn [[1824]] enillodd gadair Eisteddfod Powys yn [[y Trallwng]] gydag awdl ''Dinystr Jerusalem gan y Rhufeiniaid''. Yn [[1825]] aeth i gadw ysgol yn Llanarmon, ac yn [[1827]] aeth i [[Clynnog Fawr|Glynnog Fawr]]. Yn [[1830]] priododd Mary Williams, Clynnog, a chawsantbedwar o blant. Enillodd wobr yn Eisteddfod Lerpwl yn [[1840]] gydag awdl ''Cystudd, Amynedd, ac Adferiad Iob'', a chyhoeddodd yr awdl honno a ''Dinystr Jerusalem'' yn [[1841]]. Yn 1858 enillodd yn Eisteddfod Llangollen gydag awdl ''Brwydr Maes Bosworth''.
Llinell 9:
* ''Cyff Beuno''' (1863)
* ''Gweithiau Barddonol, etc., Eben Fardd'' (1873)
 
 
[[Categori:Llenorion Cymraeg|Thomas]]