Ebenezer Thomas (Eben Fardd)
Bardd ac ysgolfeistr oedd Ebenezer Thomas, sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol, Eben Fardd (Awst 1802 - 17 Chwefror 1863). Roedd yn un o ffigurau llenyddol mwyaf dylanwadol ei oes, fel bardd a beirniad eisteddfodol.
Ebenezer Thomas | |
---|---|
| |
Ganwyd |
Awst 1802 ![]() Llangybi ![]() |
Bu farw |
17 Chwefror 1863 ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Galwedigaeth |
bardd ![]() |
Plant |
James Thomas ![]() |
BywgraffiadGolygu
Ganed Ebenezer Thomas gerllaw Llangybi yn Eifionydd, yn fab i wehydd. Addysgwyd ef yn Llanarmon, Llangybi ac Abererch. Pan fu farw ei frawd, Evan, oedd yn cadw ysgol yn Llangybi, cymerodd ofal yr ysgol yn 1822. Daeth i adnabod beirdd amlwg y cylch, Robert ap Gwilym Ddu a Dewi Wyn, a dechreuodd farddoni ei hun. Yn 1824 enillodd gadair Eisteddfod Powys yn y Trallwng gydag awdl Dinystr Jerusalem gan y Rhufeiniaid. Yn 1825 aeth i gadw ysgol yn Llanarmon, ac yn 1827 aeth i Glynnog Fawr. Yn 1830 priododd Mary Williams, Clynnog, a chawsant bedwar o blant.
Enillodd wobr yn Eisteddfod Lerpwl yn 1840 gydag awdl Cystudd, Amynedd, ac Adferiad Iob, a chyhoeddodd yr awdl honno a Dinystr Jerusalem yn 1841. Yn 1858 enillodd yn Eisteddfod Llangollen gydag awdl Brwydr Maes Bosworth.
Bu'n feirniad mewn nifer fawr i eisteddfodau, ac ystyrid ef yn un o feirdd pwysicaf ei gyfnod. Yn Eisteddfod Aberffraw yn 1849 bu helynt pan enillodd Morris Williams (Nicander) y wobr am ei awdl Y Greadigaeth, er bod Eben Fardd eisiau rhoi'r wobr i awdl arall gan William Ambrose (Emrys)). Cyfansoddodd nifer o emynau hefyd. Claddwyd ef ym mynwent eglwys Clynnog.
LlyfryddiaethGolygu
- Cyff Beuno' (1863)
- Gweithiau Barddonol, etc., Eben Fardd (1873)
- Ebenezer Thomas yn Y Bywgraffiadur Cymreig
- 'Emyn Mawr Eben Fardd': gwerthfawrogiad o'r emyn 'O! fy Iesu bendigedig' gan yr Athro E. Wyn James ar Utgorn Cymru, rhifyn 101 (Gwanwyn 2020) - https://uwchgwyrfai.cymru/