Hedd Wyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
newidiadau man using AWB
Llinell 45:
Roedd Hedd Wyn yn frodor o [[Trawsfynydd|Drawsfynydd]], yn yr hen [[Sir Feirionydd]], lle cafodd ei eni yn 1887, yn fab i Mary ac Evan Evans, yr hynaf o unarddeg o blant. Ar ôl cyfnod yn yr ysgol leol gweithiodd gartref yn [[Yr Ysgwrn]], fferm ei dad. Treuliodd ei fywyd yno, ac eithrio cyfnod byr iawn yn gweithio yn Ne Cymru.<ref name="Pamffled Hedd Wyn">Pamffled "Hedd Wyn". Llysednowain/Traws-Newid.</ref>
 
Barddonai o'i lencyndod a bu'n cystadlu mewn eisteddfodau hyd ddyddiau cynnar [[y Rhyfel Byd Cyntaf]]. Enillodd y wobr gyntaf mewn cyfarfod llenyddol lleol pan oedd yn ddeuddeg oed cyn mynd ymlaen i ennill ei gadair gyntaf yn y Bala gyda'i [[awdl]] "Dyffryn" yn 1907. Dilynwyd hyn wrth iddo ennill cadeiriau yn [[Llanuwchllyn]] yn 1913, [[Pwllheli]] yn 1913, Llanuwchllyn yn 1915 a [[Pontardawe|Phontardawe]] yn 1915<ref name="Pamffled Hedd Wyn"/>. Bu hefyd yn weithgar yn cyfansoddi cerddi ac [[englyn|englynion]]ion i ddigwyddiadau a thrigolion Trawsfynydd. Rhoddwyd yr enw barddol Hedd Wyn iddo gan orsedd o feirdd [[Ffestiniog]] ar 20 Awst, 1910.
 
Aeth yn [[milwr|filwr]] yn 15fed Bataliwn [[y Ffiwsilwyr Cymreig]] yn Ionawr [[1917]]. Treuliodd gyfnod byr yn ymarfer yn Litherland ger [[Lerpwl]] ac aeth i [[Fflandrys]] erbyn yr haf. Erbyn diwedd mis Gorffennaf, roedd Ellis a'r gatrawd ger Cefn Pilkem lle bu brwydr Passchendaele. Fe'i lladdwyd ym Mrwydr Cefn Pilkem, rhan o [[Brwydr Passchendaele|Frwydr Passchendaele]] a elwir hefyd yn Drydedd Frwydr Ypres ([[Fflemeg]]: Ieper), ar 31 Gorffennaf yn yr un flwyddyn.
Llinell 89:
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{eginyn Cymry}}
 
{{DEFAULTSORT:Hedd Wyn}}
Llinell 98 ⟶ 100:
[[Categori:Pobl o Feirionnydd]]
[[Categori:Prifeirdd]]
 
{{eginyn Cymry}}
 
[[br:Hedd Wyn]]