Mark Hughes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cymrodor (sgwrs | cyfraniadau)
Ychwanegu ei rol cameo yn C'Mon Midffild
Cymrodor (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 25:
Rheolwr a chyn chwaraewr [[pêl-droed]] yw '''Leslie Mark Hughes''', llysenw ''Sparky'', (ganwyd [[1 Tachwedd]] [[1963]]) fel yr adwaenir ef. Cafodd ei eni a'i fagu yn [[Rhiwabon]], ger [[Wrecsam]]. Cafodd 72 cap am chwarae dros Gymru. Bu'n chwarae i [[Manchester United F.C.|Manchester United]] (dwywaith), Bayern Munich, [[Chelsea F.C.|Chelsea]], Southampton, [[Everton F.C.|Everton]] a [[Blackburn Rovers F.C.|Blackburn Rovers]]. Yn 1999 fe'i benodwyd yn reolwr rhan amser ar dîm cenedlaethol Cymru ac yn ddiweddarach yn reolwr llawn amser. Yn mis Hydref 2004 fe ymddiswyddodd fel rheolwr Cymru er mwyn rheoli Blackburn Rovers hyd 2008. Bu'n rheolwr ar [[Manchester City F.C.|Manchester City]] o 2008 hyd at Ragfyr 2009 a rheolwr [[Fulham F.C.|Fulham]] o Orffennaf 2010 i Fehefin 2011. Bu'n reolwr [[Queens Park Rangers F.C.|Queens Park Rangers]] rhwng Ionawr a Thachwedd 2012.
 
YmddangosoddChwaraeodd Mark Hughes ei hun mewn rhanrôl cameo fel ei hun yn y bennod 'Tim yGweld Sêr a Mark Hughes' o'r gyfres [[C'mon Midffîld!]] ar [[S4C]] yn 1990. Ymddangosodd Mark i syndod pawb wedi iddo gael gwahoddiad drwy fab i chwaer yng nghyfraith Wali Thomas, a oedd yn nai i ewythr cyfnither Mark. Wrth ymddangos ar y cae fe ofynnodd i Mr Picton, "Siawns am gêm?" (yn Gymraeg), cyn mynd ar y cae a sgorio gôl. Bu'n eistedd wrth ochr Wali yn gymanfa ganu'r capel ar ddiwedd y rhaglen, er na chanodd.
 
{{Comin|Category:Mark Hughes|Categori:Mark Hughes}}