Lewis Gilbert: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Ffilmiau: Man olygu using AWB
Ailenwi rhannau o Swydd Efrog ayb using AWB
Llinell 1:
Cyfarwyddwyr, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilmiau Seisnig yw '''Lewis Gilbert''' [[CBE]] (ganwyd 6 Mawrth 1920). Ganwyd Gilbert yn [[Llundain]] a dechreuodd ei yrfa yn actio mewn ffilmiau tra'r oedd yn blentyn yn y 1920au a'r 1930au. Symudodd ymlaen i ffilmio ffilmiau dogfen ar gyfer yr [[RAF]] yn ystod yr [[Ail Rhyfel Byd]]. Daeth Gilbert yn enwocach yn y 1950au trwy gyfarwyddo cyfres o ffilmiau llwyddiannus am yr Ail Ryfel Byd.
 
Ym [[1966]] cyfarwyddodd Gilbert y ffilm [[Alfie]] yn serennu [[Michael Caine]]. Dywedodd Gilbert y chynhyrchwyd y ffilm ar gyllid bach iawn, sef yn ei eiriau ei hun "the sort of money Paramount executives normally spend on cigar bills". Enwebwyd y ffilm am bump o [[Gwobrau'r Academi|Wobrau'r Academi]] gan gynnwyd y Ffilm Orau. Enwebwyd y ffilm am [[Golden Globe]] am y Cyfarwyddwr Gorau ac ail-grëwyd y ffilm yn [[2004]] yn serennu [[Jude Law]].
 
Perswadiwyd ef hefyd gan [[Harry Saltzman]] ac [[Albert R. Broccoli]] i gyfarwyddo'r ffilm [[You Only Live Twice]] o'r gyfres [[James Bond]] ym [[1967]]. Dychwelodd Gilbert i gyfarwyddo dwy ffilm arall hefyd sef [[The Spy Who Loved Me (ffilm)|The Spy Who Loved Me]] ym [[1977]] a [[Moonraker (ffilm)|Moonraker]] ym [[1979]].
 
Yn ystod y 1980au, dychwelodd Gilbert i weithio ar ddramâu llai eu maint gyda'r ffilmiau llwyddiannus [[Educating Rita (ffilm)|Educating Rita]] ([[1983]]) a [[Shirley Valentine (ffilm)|Shirley Valentine]] ([[1989]]).