Lewis Gilbert
Cyfarwyddwyr, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilmiau Seisnig yw Lewis Gilbert CBE (6 Mawrth 1920 – 23 Chwefror 2018). Ganwyd Gilbert yn Llundain a dechreuodd ei yrfa yn actio mewn ffilmiau tra'r oedd yn blentyn yn y 1920au a'r 1930au. Symudodd ymlaen i ffilmio ffilmiau dogfen ar gyfer yr RAF yn ystod yr Ail Rhyfel Byd. Daeth Gilbert yn enwocach yn y 1950au trwy gyfarwyddo cyfres o ffilmiau llwyddiannus am yr Ail Ryfel Byd.
Lewis Gilbert | |
---|---|
Ganwyd | 6 Mawrth 1920 ![]() Llundain ![]() |
Bu farw | 23 Chwefror 2018 ![]() Monaco ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, ysgrifennwr ![]() |
Gwobr/au | CBE ![]() |
Ym 1966 cyfarwyddodd Gilbert y ffilm Alfie yn serennu Michael Caine. Dywedodd Gilbert y chynhyrchwyd y ffilm ar gyllid bach iawn, sef yn ei eiriau ei hun "the sort of money Paramount executives normally spend on cigar bills". Enwebwyd y ffilm am bump o Wobrau'r Academi gan gynnwyd y Ffilm Orau. Enwebwyd y ffilm am Golden Globe am y Cyfarwyddwr Gorau ac ail-grëwyd y ffilm yn 2004 yn serennu Jude Law.
Perswadiwyd ef hefyd gan Harry Saltzman ac Albert R. Broccoli i gyfarwyddo'r ffilm You Only Live Twice o'r gyfres James Bond ym 1967. Dychwelodd Gilbert i gyfarwyddo dwy ffilm arall hefyd sef The Spy Who Loved Me ym 1977 a Moonraker ym 1979.
Yn ystod y 1980au, dychwelodd Gilbert i weithio ar ddramâu llai eu maint gyda'r ffilmiau llwyddiannus Educating Rita (1983) a Shirley Valentine (1989).
CyfarwyddwrGolygu
FfilmiauGolygu
- Sailors Do Care (1944)
- The Ten Year Plan (1945)
- Under One Roof (1946)
- Arctic Harvest (1946)
- The Little Ballerina (1948)
- Once a Sinner (1950)
- There Is Another Sun (1951)
- Scarlet Thread (1951)
- Cosh Boy (1952)
- Emergency Call (1952)
- Time Gentlemen Please! (1952)
- Johnny on the Run (1953)
- Albert R.N. (1953)
- The Good Die Young (1954)
- The Sea Shall Not Have Them (1954)
- Cast a Dark Shadow (1955)
- Reach for the Sky (1956)
- The Admirable Crichton (1957)
- Carve Her Name with Pride (1958)
- A Cry from the Streets (1958)
- Ferry to Hong Kong (1959)
- Light Up the Sky! (1960)
- Sink the Bismarck! (1960)
- The Greengage Summer (1961)
- H.M.S. Defiant (1962)
- The 7th Dawn (1964)
- Alfie (1966)
- You Only Live Twice (1967)
- The Adventurers (1970)
- Friends (1971)
- Paul and Michelle (1974)
- Operation Daybreak (1975)
- Seven Nights in Japan (1976)
- The Spy Who Loved Me (1977)
- Moonraker (1979)
- Educating Rita (1983)
- Not Quite Paradise (1986)
- Shirley Valentine (1989)
- Stepping Out (1991)
- Haunted (1995)
- Before You Go (2002)