Morys Clynnog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 1:
Roedd '''Morys Clynnog''' (c. [[1525]] - [[1581]]) yn ddiwinydd Catholig Cymreig ac yn un o'r ffigyrau pwysicaf ymhlith y [[Y Gwrthddiwygwyr Cymreig|Gwrthddiwygwyr Cymreig]]. Mae'n debyg iddo gael ei eni yn ardal [[Clynnog Fawr]] yng [[Gwynedd|Ngwynedd]]. Addysgwyd ef yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen, gan raddio yn [[1548]] Bu'n gaplan i'r [[Cardinal]] Reginald Pole am gyfnod. Penodwyd ef yn [[Esgob Bangor]] yn [[1558]], ond cyn iddo gael ei gysegru bu farw'r frenhines [[Mari I o Loegr]]. Nid oedd Morys Clynnog yn barod i dderbyn newidiadau crefyddol y frenhines newydd, Elizabeth, ac aeth i Rufain.
 
Gwnaed ef yn warden yr Ysbyty Seisnig yn Rhufain yn 1577, a phan sefydlwyd Coleg Seisnig yno y flwyydyn ddilynol gan Owen Lewis, dewiswyd Morys Clynnog yn rheithor. Bu raid iddo ymddeol o'r swydd yma yn [[1579]] wedi i'r myfyrwyr Seisnig gwyno ei fod yn ffafrio'r Cymry.