Cantref: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 2:
==Hanes==
Fel rheol yr oedd cantref yn cynnwys dau neu ragor o [[cwmwd|gymydau]].
Credid ar un adeg bod y cymydau hyn yn ddatblygiad diweddarach na'r cantrefi ond y tuedd erbyn hyn ydy ystyried mai'r cymydau yw'r unedau hynaf yn hytrach na'r cantrefi; yn sicr y cymydau oedd yr unedau gweinyddol sylfaenol yn yr Oesoedd Canol. Er hynny, mae rhai o'r cantrefi yn cyfateb i diriogaethau rhai o [[Teyrnasoedd Cymru|deyrnasoedd cynnar Cymru]], e.e. [[Rhos]] yng ngogledd Cymru, neu yn coffau enwau llwythau Celtaidd, e.e. [[Tegeingl]] (y ''[[Deceangli]]'').
Parhaodd nifer o'r hen gantrefi ar ôl cwymp Cymru annibynnol yn 1282-3. Dan y drefn Seisnig roeddent yn ''hundreds''. Ni ddiflanodd yr ''hundreds'' hynny fel unedau lleol - yn enwedig ar gyfer ystadegau - tan y 19eg ganrif.
|