Cantref

ardal ddaearyddol ac uned weinyddol yng Nghymru'r Oesoedd Canol

Roedd cantref yn ardal ddaearyddol ac uned weinyddol yng Nghymru'r Oesoedd Canol, gyda'i chanolfan lys a'i maerdref gysylltiedig. Ystyr yr enw yn llythrennol yw "Cant o drefi" neu "gan trefgordd"; ond nid tref yn yr ystyr ddiweddar a olygir ond 'trefi' Cymreig canoloesol; unedau tebyg i'r plwyf eglwysig a sifil neu i gymunedau Cymru heddiw. Mae'r ffin rhwng rhai cantrefi hefyd yn ffin dafodiaethol, sy'n cadarnhau eu hynafiaeth.

Cantref
Mathendid tiriogaethol gweinyddol, cantref Edit this on Wikidata

Fel rheol yr oedd cantref yn cynnwys dau neu ragor o gymydau. Rhennid Cantref Aberffraw ym Môn yn ddau gwmwd, sef Llifon a Malltraeth, ond roedd ambell gantref mawr yn cynnwys hanner dwsin neu ragor o gymydau, e. e. Cantref Gwarthaf yn Nyfed gyda wyth cwmwd, sef Efelffre, Peuliniog, Talacharn, Amgoed, Ystlwyf, Penrhyn, Derllys ac Elfed. Roedd rhai o'r cantrefi, yn wir, yn deyrnasoedd a lyncwyd gan unedau mwy ac eraill yn unedau gwneud a grewyd yn ddiweddarach. Disodlwyd y rhan fwyaf o gantrefi gan y cwmwd, ond goroesodd llawer hyd at ddiwedd yr Oesoedd Canol.

Credid ar un adeg bod y cymydau hyn yn ddatblygiad diweddarach na'r cantrefi ond y tuedd erbyn hyn ydy ystyried mai'r cymydau yw'r unedau hynaf yn hytrach na'r cantrefi; yn sicr y cymydau oedd yr unedau gweinyddol sylfaenol yn yr Oesoedd Canol. Er hynny, mae rhai o'r cantrefi yn cyfateb i diriogaethau rhai o deyrnasoedd cynnar Cymru, e. e. Rhos yng ngogledd Cymru, neu yn coffau enwau llwythau Celtaidd, e. e. Tegeingl (y Deceangli).

Parhaodd nifer o'r hen gantrefi ar ôl cwymp Cymru annibynnol yn 1282-3. Dan y drefn Seisnig roeddent yn hundreds ("hwndrwd" ar lafar). Ni ddiflanodd yr hundreds hynny fel unedau lleol — yn enwedig ar gyfer ystadegau — tan y 19g.

Gweler hefyd

golygu