Y Dywysoges Gwenllian: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd
Llinell 1:
:''Erthygl am ferch Llywelyn ap Gruffudd yw hon. Gweler hefyd [[Gwenllian (gwahaniaethu)]].''
[[Delwedd:Gwenllian Tribute.jpg|bawd|Plac coffa Gwenllian ar ben Yr Wyddfa, Eryri]]
 
[[Delwedd:Gwenllian monument 528634.jpg|bawd|Carreg goffa Gwenllian yn Sempringham]]
 
Merch [[Llywelyn Ein Llyw Olaf]], [[Tywysog Cymru]], a'i wraig [[Eleanor de Montfort|Elinor]], Arglwyddes Cymru, oedd y '''Dywysoges Gwenllian''' neu '''Gwenllian o Gymru''' ([[12 Mehefin]], [[1282]] - [[7 Mehefin]], [[1337]]), [[Teyrnas Gwynedd|Tywysoges Gwynedd]] a [[Tywysoges Cymru|Chymru]]. Hi oedd unig ddisgynnydd cyfreithlon Llywelyn o'i briodas ag Elinor (Elen), merch y barwn [[Simon de Montfort]].

==Hanes==
Cafodd Gwenllian ei geni yn llys tywysogion [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] yn [[Abergwyngregyn|Aber Garth Celyn]], Gwynedd, a bu ei mam farw wrth roi genedigaeth iddi.
 
Ar ôl i [[Tywysogaeth Cymru|Dywysogaeth Cymru]] syrthio, wedi lladd Llywelyn a dienyddio ei frawd [[Dafydd ap Gruffudd|Dafydd]], bu erlid gan y Saeson ar ddisgynyddion uniongyrchol olaf Teulu [[Aberffraw]]. Roedd [[Eryri]] a chalon Gwynedd dan warchae ac am chwe mis neu ragor bu cyfnod dychrynllyd yn hanes y wlad gyda'r milwyr Seisnig yn cael rhwydd hynt i wneud fel y mynnant.
Llinell 11 ⟶ 14:
Codwyd carreg goffa iddi yn Sempringham yn [[2001]] gan Gymdeithas Gwenllian.
 
Ar y 1af o Fai 2009 cyhoeddwyd y byddbyddai enw [[Garnedd Uchaf]], copa 3,000 m yn y [[Carneddau]], yn cael ei newid yn swyddogol i '''[[Carnedd Gwenllian|Garnedd Gwenllian]]''' i gofio'r Dywysoges Gwenllian. ByddByddai Gwenllian yn ymuno felly a'i thad, ei mam a'i ewythr a goffeir eisoes yn enwau copaon eraill gerllaw, sef [[Carnedd Llywelyn]], [[Yr Elen]] a [[Carnedd Dafydd]]. Bydd yr enw yn cael ei argraffu, gyda'r hen enw hefyd, ar fapiau OS newydd o Fedi 2009 ymlaen.<ref>[http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/2009/05/01/carnedd-uchaf-renamed-after-last-welsh-princess-55578-23516910/ "Carnedd Uchaf renamed after last Welsh princess"], ''[[Daily Post]]'', 01.05.2009.</ref>
 
==Gweler hefyd==